British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2011, 11:10 GMT 12:10 UK
£600,000 i adnewyddu castell

Castell Dinbych
Bydd y castell yn ailagor yn Chwefror 2012

Bydd castell o'r 13eg ganrif yn cau i'r cyhoedd am chwe mis ar gyfer gwaith adnewyddu gwerth £600,000.

Fe fydd canolfan ymwelwyr newydd yn cael ei godi yng Nghastell Dinbych, ac fe fydd llwybrau cerdded arbennig yn cael eu hagor o amgylch y castell.

Bydd y castell yn cau ddydd Sul, Gorffennaf 24, er mwyn i weithwyr gael mynediad i'r safle.

Pan fydd yn ailagor ym mis Chwefror, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn atyniad sylweddol i "ymwelwyr treftadaeth."

Mae Cadw - gwasanaeth henebion Llywodraeth Cymru - yn buddsoddi arian o'i chronfa Ewropeaidd ar gyfer twristiaeth treftadaeth.

'Perthnasol'

Dywedodd y Gweinidog Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis:

"Fel atyniad ymwelwyr treftadaeth allweddol, bydd yr adnoddau newydd yn cynnwys popeth sydd ei angen ar ymwelwyr i ddeall, mwynhau a gwerthfawrogi'r dreftadaeth neilltuol sydd gan Ddinbych i'w gynnig.

"Bydd gwell mynediad a gweithgareddau sy'n hwyl yn allweddol i wneud atyniad fel hyn yn berthnasol i ymwelwyr a phobl sy'n byw yn lleol."

Y llynedd, fe sefydlodd y cyngor tref gynllun lle'r oedd gwirfoddolwyr yn cynnig teithiau tywys i ymwelwyr o amgylch y dref er mwyn rhannu'r hanes a thaflu goleuni ar y 235 o adeiladau cofrestredig sydd yno.

Ychwanegodd Mr Lewis: "Bydd datblygiad Cadw yn y dref yn cydweddu'n ddau gyda'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan Gyngor Tref Dinbych i ddatblygu a hybu treftadaeth a gwerth twristiaeth y dref."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific