Bydd Ieuan Wyn Jones yn rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth yn y flwyddyn newydd
|
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn awyddus i weld cystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid pan fydd yn rhoi'r gorau iddi yn y flwyddyn newydd. Dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn ei fod yn meddwl ei bod hi'n bwysig i aelodau'r blaid gael dewis o arweinydd. Cyhoeddodd y blaid yr wythnos ddiwethaf mai'r nod oedd cael arweinydd newydd yn ei le erbyn mis Mawrth a chyn etholiadau'r cynghorau yn 2012. Daeth y cyhoeddiad yng nghanol adolygiad o strategaeth y blaid wedi canlyniadau siomedig yn etholiadau'r Cynulliad a'r etholiad cyffredinol yn 2010. Does yr un ymgeisydd wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn arweinydd hyd yma, ond mae aelodau'r blaid yn etholaeth Dwyfor Meirionydd wedi enwebu eu haelod nhw, Yr Arglwydd Elis-Thomas, er iddo yntau arwain y blaid 20 mlynedd yn ôl. Mae'r cyn weinidog Materion Gwledig, Elin Jones, wedi dweud ei bod yn ystyried sefyll. Rhaid i'r arweinydd newydd fod yn Aelod Cynulliad, sy'n golygu na all rhai ffigyrau amlwg yn y blaid fel Adam Price a Helen Mary Jones fod yn ymgeiswyr. 'Clywed barn' Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru: "Rydym yn gwybod y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, ac felly mae'n iawn ac yn briodol i etholiad arweinyddol ddilyn hynny mor fuan â phosib. "Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd cystadleuaeth oherwydd mae aelodau'r blaid yn gwerthfawrogi clywed barn ymgeiswyr. "Rwyf wedi bod yn rhan o ddau etholiad arweinyddol, ac mae angen i'r aelodau wybod fod ganddynt bleidlais wrth benderfynu'r arweinydd nesaf. "Mae angen hefyd i'r arweinydd newydd wybod fod ganddynt gefnogaeth yr aelodau cyn ymgymryd â'r swydd." 'Talent' Roedd Mr Jones yn gwadu y byddai pwy bynnag gaiff y swydd yn cael ei weld fel arweinydd dros dro tan i Adam Price, sydd wedi dweud ei fod am ddychwelyd i fod yn AC, ddod yn ol i wleidyddiaeth yng Nghymru. Ychwanegodd Mr Jones: "Rwy'n eitha' sicr y byddai Adam wedi bod yn ymgeisydd petai wedi bod yn rhan o'r grŵp yn y Cynulliad. "Ond mae digon o dalent o fewn y grŵp fel y gall yr arweinydd nesaf fwynhau hyder y blaid i fynd a ni ymlaen i'r cyfnod nesaf o'n datblygiad. "Dim ond aelodau o'r grŵp all gael eu henwebu fel ymgeiswyr am yr arweinyddiaeth."
|