Digwyddodd y lladrad ar Fai 19
|
Mae dau ddyn wedi pledio'n euog i ddwyn hyd at £13,000 o'r tu allan i fanc ym Mhowys. Ymddangosodd Mark Ricardo Lawlor, 26 o Solihull, a Micquel Daniel France, 24 ac yn ddigartref ond o ardal Birmingham, gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener. Plediodd y ddau yn euog o ddwyn gan swyddog cwmni diogelwch wrth y fynedfa ym Manc Barclays, Machynlleth ar Fai 19. Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa gan y Barnwr Niclas Parry er mwyn paratoi adroddiadau cyn eu dedfrydu ym mis Medi.
|