British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011, 17:27 GMT 18:27 UK
'Gorfod trywanu Lynette'

Lynette White
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 gwaith yn ei fflat

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod menyw, gafodd ei holi yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White, wedi ei gorfodi i'w thrywanu.

Gorfodwyd Angela Psaila, 46 oed, i fod yn rhan o'r farwolaeth yn 1988 er mwyn sicrhau ei thawelwch, medd cwnsel yr amddiffyniad.

Ond dywedodd Miss Psaila bod yr honiad yn "rwtsh".

Cafodd Ms White, oedd yn gweithio fel putain, ei llofruddio mewn fflat yng Nghaerdydd ar Chwefror 14, 1988.

Fe gafodd ei thrywanu 50 o weithiau.

Mae wyth o gyn-blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Gwarchod

Ar Dachwedd 17, 1988, roedd datganiadau Ms Psaila yn dweud ei bod hi'n gwarchod mab Leanne Vilday gartre yn oriau mân Chwefror 14, 1988.

Newidiodd ei datganiad wedi i'r Ditectif Gwnstabl Michael Daniels a'r Ditectif Gwnstabl Bryan Gillard ei holi'n galed, clywodd y llys.

CYHUDDIADAU
GRAHAM MOUNCHER (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
THOMAS PAGE (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
RICHARD POWELL (Cyn Uwch-arolygydd wedi ymddeol)
JOHN SEAFORD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
MICHAEL DANIELS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PETER GREENWOOD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL JENNINGS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL STEPHEN (Cyn-Sargant wedi ymddeol)
Yr uchod yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae Mr Mouncher hefyd yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.
VIOLET PERRIAM a IAN MASSEY yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Ond ddydd Gwener dywedodd Ms Psaila ei bod nawr yn dweud y gwir wrth ddweud eu bod adref yn gwarchod pan gafodd Lynette White ei thrywanu.

Dywedodd William Coker QC, yn cynrychioli'r cyn-brif arolygydd wedi ymddeol Graham Mouncher, wrth Ms Psaila ei bod wedi dweud y gwir yn 1988 a'i bod, mewn gwirionedd, wedi bod yn dyst i'r lladd.

Ond ymatebodd Ms Psaila: "Mae hynny'n rwtsh.

"Faint o weithiau sydd angen i mi ddweud?

"Wnes i ddim gadael fy fflat y noson honno. Wnes i ddim gweld y lladd".

Dywedodd Miss Psaila nad oedd "dim cysylltiad o gwbl" rhyngddi hi â'r llofruddiaeth ond bod ditectifs wedi ei holi droeon.

Yn y pen draw, roedd yr hyn ddywedodd wrth yr heddlu yn rhan o'r dystiolaeth ffug yn erbyn Tri Caerdydd.

Eisoes mae'r erlyniad wedi honni bod cyn-blismyn Heddlu'r De wedi ffugio tystiolaeth yn erbyn y Tri, sef Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris.

Cafodd y tri eu carcharu ar gam ym 1990 a'u rhyddhau ar apêl ym 1992.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Lynette: Tystiolaeth putain
20 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: 'Heddlu'n holi'n ymosodol'
08 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: Heddlu wedi 'bwlio' tystion
07 Gorff 11 |  Newyddion
'Wyth wedi ffugio tystiolaeth'
06 Gorff 11 |  Newyddion
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific