British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Awst 2011, 07:45 GMT 08:45 UK
Pobol y Brifwyl: Mam a Merch

Mae Newyddion Arlein BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda nifer o bobl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar drothwy'r Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro eleni. Alys Lewis gafodd sgwrs gyda Heulwen Jones a Leusa Pritchard sy'n rhan o seremoniau'r Orsedd eleni.



Heulwen Jones a Leusa Pritchard
Heulwen a Leusa yw Mam a Morwyn y Fro eleni

Am y tro cyntaf yn hanes Gorsedd y Beirdd mae mam a merch yn Fam a Morwyn y Fro.

Mae Heulwen Jones a Leusa Pritchard yn byw yn Wrecsam a'r ddwy yn falch iawn o gael rôl mor bwysig eleni.

"'Dan ni wrth ein boddau ac wedi cynhyrfu'n lân," meddai Heulwen.

"Dwi ddim yn gwybod sut fyddwn ni erbyn diwedd yr Eisteddfod!"

Mae'r ddwy yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldeb sydd yn dod gyda'r rôl o gario'r Corn Hirlas a'r Flodeuged yn y prif seremoniau.

"Dydy o ddim yn rhywbeth i'w gymryd yn ysgafn," meddai Leusa, sy'n astudio Lefel A yn Ysgol Morgan Llwyd.

"Mae'n rhywbeth arbennig iawn, yn enwedig y ffaith bod ni'n gallu rhannu'r profiad efo'n gilydd."

Casglu blodau

Mae hi'n falch gweld yr Eisteddfod yn ymweld â'i thref hi.

"Mae'r ffaith bod yr Eisteddfod yn Wrecsam yn rhoi ymwybyddiaeth i'r iaith yn yr ardal," meddai.

Leusa Pritchard a Heulwen Jones gyda'r ddwy forywn a'r ddau facwy yn Seremoni Cyhoeddi'r Eisteddfod yn 2010
Am y tro cyntaf mam a merch sy'n Fam y Fro a Morwyn y Fro

Mae gan Heulwen a Leusa gyfenwau gwahanol felly pan aethon nhw i'r rhagbrawf doedd neb yn sylweddoli mai mam a merch oedden nhw.

"Base fo 'di bod yn reit anodd petai un ohonom wedi cael y swydd a dim y llall," meddai Heulwen.

Ymhlith eu dyletswyddau mae casglu'r blodau gwyllt lleol ar gyfer y Flodeuged.

Ond yn ffodus mae ganddyn nhw gymorth.

"Mae Mam y Fro o Eisteddfod 1977, Mair Edwards, yn ffrind da i ni ac yn drefnydd blodau ardderchog," eglurodd Heulwen.

"Felly bydd hi'n helpu."

Yn ogystal â bod yn Fam y Fro mae Heulwen hefyd yn ysgrifenyddes i Bwyllgor y Dysgwyr.

Ac mae Leusa yn cystadlu ac yn cymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol hefyd.

Mae'r ddwy yn gobeithio'n arw y bydd rhywun yn ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith a fydd yn ychwanegu at y seremoniau.

"Bydde'n siom petai neb yn ennill," meddai Heulwen.

"Dwi'n gwybod bod ni'n cyfarch yr ennillydd ond dwi ddim yn siwr beth sy'n digwydd os nad oes neb yn ennill!"




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific