British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011, 10:36 GMT 11:36 UK
Mullanys: Recordio sgwrs ffn

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio ym mis Gorffennaf 2008

Mae'r rheithgor yn achos y ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpwl o Gymru wedi clywed recordiad oedd ar ffôn y dyn fu farw.

Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu ar ddiwrnod olaf eu mis mêl mewn gwesty ar ynys Antigua yn 2008.

Mae Avie Howell, 20 oed, a Kaniel Martin, 23 oed, yn gwadu eu lladd nhw a pherchennog siop leol, Wonita Anderson.

Clywodd y llys recordiadau o ffôn symudol Mr Mullany a gafodd ei ddwyn wedi'r saethu.

Tystiolaeth

Mae'r recordiadau yn cynnwys sgwrs rhwng Kaniel Martin a ffrind.

Chwaraewyd y recordiadau ar ddiwedd araith hir gan gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus Antigua, Anthony Armstrong.

Clywodd y rheithgor Mr Martin yn siarad â ffrind mewn un o'r recordiadau ac fe gafodd ei glywed yn canu mewn recordiadau eraill.

Cafodd Mr a Mrs Mullany eu saethu ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27, 2008.

Bu farw Mrs Mullany - oedd newydd gymhwyso i fod yn feddyg - yn syth.

Roedd ei gŵr yn astudio i fod yn ffisiotherapydd a bu farw wythnos yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghymru.

Pwysleisiodd Mr Armstrong benderfyniad y ddau ddiffynnydd i beidio rhoi tystiolaeth ar lw yn ystod yr achos.

"Dyna oedd eu hawl," meddai Mr Armstrong.

"Ond roedd distawrwydd Avie Howell yn fyddarol."

Olion gwn

Fe gafwyd datganiad oedd ddim ar lw gan Kaniel Martin, ond roedd hwnnw yn ôl Mr Armstrong yn "ddim ond tusw o gelwyddau".

Roedd tystiolaeth ffôn symudol yn gosod Mr Martin yn ardal gwesty'r cwpl adeg y llofruddiaethau.

Roedd y diffynnydd wedi honni mae mynd yno i ddefnyddio'r traeth a wnaeth.

O fewn diwrnod i'r llofruddiaethau, roedd Mr Howell wedi defnyddio ffôn a gafodd ei ddwyn o ystafell Mr a Mrs Mullany ddiwrnod pan gafodd y ddau eu saethu.

Hefyd roedd gan y ddau ddyn olion gwn ar eu dillad oedd yn cyfateb i'r bwledi gafodd eu defnyddio.

Bydd yr erlyniad yn cloi eu hachos nhw ddydd Gwener, ac mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Mis ml: Erlyniad yn cloi
21 Gorff 11 |  Newyddion
Mullanys: Achos yn tynnu at ei derfyn
21 Gorff 11 |  Newyddion
Mullanys: Olion ar ddillad
13 Gorff 11 |  Newyddion
Priodferch wedi ei saethu unwaith
07 Gorff 11 |  Newyddion
Heddlu Antigua yn clustfeinio
30 Meh 11 |  Newyddion
'Modd agor clwyd heb allwedd'
22 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific