British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011, 18:41 GMT 19:41 UK
Torf sylweddol i'r Sioe Frenhinol

Ydy'r cyhoedd wedi bod yn mynd i'w pocedi yn y Sioe?

Er gwaetha'r cyni economaidd daeth dros 226,000 o bobl i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni - y nawfed cyfanswm uchaf yn hanes y sioe.

Roedd yr union ffigwr o 226,407 yn uwch na'r cyfartaledd am y pum mlynedd ddiwethaf ond ychydig yn is na record 2006 o 240,140.

Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi plesio gyda'r wyneb newydd ar y prif gylch yn dilyn trafferthion y llynedd.

Gwariodd Cymdeithas y Sioe Frenhinol £200,000 ar wella'r safle, a dywedodd eu cadeirydd David Lewis mai'r unig wyneb hir a welwyd oedd ar y bobl oedd yn gwerthu wellingtons!

Ymhlith yr ymwelwyr i'r Sioe eleni roedd pobl o nifer o wledydd tramor gan gynnwys Yr Unol Daleithiau, Seland Newydd, Denmarc, Yr Iseldiroedd, Norwy a Mali.

Ysgafnhau'r baich

Gareth Williams
Cafodd Gareth Williams ei benodi i weithio ar gynllun 'Hwyluso'r Drefn'

Un cyhoeddiad pwysig a wnaed yn y sioe oedd gan y dirprwy weinidog dros amaeth, Alun Davies.

Cyhoeddodd yntau gynllun 'Hwyluso'r Drefn' Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o geisio lleihau'r baich gweinyddol ar ffermwyr.

Cafodd cadeirydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, Gareth Williams, ei benodi i weithio ar y cynllun, a daeth croeso i'r penodiad gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Dywedodd Alun Davies: "Dyma un o fy mhrif flaenoriaethau.

"Rwy'n benderfynol o weithredu'r cynllun yma a hefyd i wneud newidiadau mewnol yn y diwydiant."

Ychwanegodd ei fod am ddarganfod gwell ffyrdd o wneud busnes fel y gall "ffermwyr fod yn rhydd i fod yn ffermwyr."

Gwobr goffa

Yn y cyfamser cyhoeddwyd mai ffermwr defaid o Aberystwyth, Aled Llŷr Thomas, oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Brynle Williams.

Bu farw cyn Aelod Cynulliad Gogledd Cymru ym mis Ebrill yn 62 oed.

Cafodd y wobr flynyddol ei henwi er cof amdano i gofio'i gyfraniad i fyd amaeth yng Nghymru drwy ei waith gyda Chobiau Cymreig, fel AC ac fel ffermwr.

Bydd y wobr yn dathlu llwyddiannau ffermwyr ifanc sydd wedi derbyn cefnogaeth fel rhan o gynllun busnes ifanc Lywodraeth Cymru.



HEFYD
£3.5m i hybu Cig Oen Cymru
20 Gorff 11 |  Newyddion
£200,000 i wella prif gylch sioe
26 Meh 11 |  Newyddion
Elw i'r Sioe Frenhinol
17 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific