British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011, 16:45 GMT 17:45 UK
Mis ml: Erlyniad yn cloi

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio ym mis Gorffennaf 2008

Ar ynys Antigua, mae'r cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus wedi dechrau ei anerchiad cloi yn achos y ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpwl o Gymru.

Cafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu ar ddiwrnod olaf eu mis mêl mewn gwesty ar yr ynys yn 2008.

Mae Avie Howel a Kaniel Martin yn gwadu eu lladd nhw a pherchennog siop leol, Wonita Anderson.

Dywedodd yr erlynydd, Anthony Armstrong, wrth y llys fod tystiolaeth DNA, balisteg a thystiolaeth ffôn symudol yn awgrymu mai Martin a Howel a laddodd y tri.

Dim tystiolaeth

Yn ystod yr achos wyth wythnos, mae'r rheithgor wedi clywed gan 90 o dystion, bob un wedi eu galw gan yr erlyniad.

Doedd gan yr amddiffyniad ddim tystiolaeth i'w gynnig heblaw cyfres o wadiadau.

Pwysleisiodd Mr Armstrong benderfyniad y ddau ddiffynnydd i beidio rhoi tystiolaeth ar lw yn ystod yr achos.

"Dyna oedd eu hawl," meddai Mr Armstrong, "ond roedd distawrwydd Avie Howel yn fyddarol."

Fe gafwyd datganiad oedd ddim ar lw gan Kaniel Martin, ond roedd hwnnw yn ôl Mr Armstrong yn "ddim ond tusw o gelwyddau."

Tystiolaeth ffôn

Roedd tystiolaeth ffôn symudol yn gosod Martin yn ardal gwesty'r cwpl adeg y llofruddiaethau.

Roedd y diffynnydd wedi honni mae mynd yno i ddefnyddio'r traeth a wnaeth.

O fewn diwrnod i'r llofruddiaethau, roedd Howel wedi defnyddio ffôn a gafodd ei ddwyn o ystafell Ben a Catherine Mullany ar ddiwrnod eu lladd.

Hefyd roedd gan y ddau ddyn olion gwn ar eu dillad oedd yn cyfateb i'r bwledi gafodd eu defnyddio.

Bydd yr erlyniad yn cloi eu hachos nhw ddydd Gwener, ac mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Mullanys: Achos yn tynnu at ei derfyn
21 Gorff 11 |  Newyddion
Mullanys: Olion ar ddillad
13 Gorff 11 |  Newyddion
Priodferch wedi ei saethu unwaith
07 Gorff 11 |  Newyddion
Heddlu Antigua yn clustfeinio
30 Meh 11 |  Newyddion
'Modd agor clwyd heb allwedd'
22 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific