British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2011, 05:50 GMT 06:50 UK
Cynllun canolfan newydd 13.6m

Afan Lido ar l y tn
Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi addo codi adeilad yn lle'r ganolfan a ddinistriwyd.

Gallai adeilad i gymryd lle canolfan hamdden gafodd ei dinistrio mewn tân flwyddyn a hanner yn ô gael ei gwblhau erbyn diwedd 2013.

Pan losgwyd canolfan Lido Afan yn Aberafan yn ulw ar Ragfyr 16 2009, addawodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot naill ai ei hailgodi neu godi rhywbeth yn ei lle.

Erbyn hyn, dywed y Cyngor y byddai'n rhy ddrud i godi adeilad yn union yr un fath â'r un a ddinistriwyd.

Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys sleidiau dŵr gydag adnodd reid teiars, pwll nofio, sba a chanolfan i gynnal cyngherddau.

Clywodd cynghorwyr y bydd y gost derfynol tua £13.6m.

2,628 o bobl

Mae mwy na 2,628 o bobl wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae nifer o'r sylwadau yn yr ymgynghoriad yn fanwl iawn, yn arbennig gan grwpiau anabledd a chan unigolion yn sôn am yr offer".

Y mwg yn codi o'r adeilad
Y mwg yn codi o'r adeilad

Cafodd Lido Afan ei agor yn swyddogol gan y Frenhines ym mis Mehefin 1965, ac yn wreiddiol roedd yn cynnwys pwll nofio o faint cystadleuol 50 metr er i hwnnw gael ei newid yn ddiweddarach i bwll 25m.

Rheolwr cynta'r ganolfan oedd Graham Jenkins, brawd yr actor byd enwog Richard Burton, ac ymhlith y grwpiau cerddorol fu'n perfformio yno oedd Pink Floyd, Motorhead, Coldplay, McFly, Super Furry Animals a Catatonia.

Bu dros 100 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd y tân yn y Lido yn 2009, a bu'n rhaid cau ffyrdd cyfagos a gorfodi trigolion i adael eu cartrefi.

Pan oedd y tân ar ei waethaf, roedd 17 o beiriannau tân yno, gan gynnwys tair ysgol arbennig.



HEFYD
Canolfan i gael ei dymchwel
18 Ion 10 |  Newyddion
Asbestos ar safle lle oedd tn
23 Rhag 09 |  Newyddion
Canolfan: Addewid i ailadeiladu
17 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific