British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011, 09:08 GMT 10:08 UK
Y flwyddyn 1861...cychwyn ar yr Eisteddfod

Plac ar Neuadd Y Farchnad Aberdr
Mae plac yn nodi lleoliad yr Eisteddfod gyntaf, gafodd ei dadorchuddio yn 2009

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf, fel y gwyddon ni amdani, ei chynnal union 150 mlynedd yn ôl yn Aberdâr yn 1861.

Dros y misoedd diwethaf mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn casglu atgofion pobl am wahanol eisteddfodau ac yn edrych yn ôl ar yr archifau swyddogol.

Mae sawl hanesyn ac atgof diddorol i'w gweld yn rhaglen swyddogol yr Eisteddfod eleni yn ogystal ag ar wefan yr Eisteddfod .

Fe fydd y casglu yn parhau ac mae 'na anogaeth i Eisteddfodwyr o bob oed i fynd ati i gofnodi eu profiadau.

Yn ystod yr wythnos yn Wrecsam fe fydd cyfle i bobl rannu'r straeon ac mae 'na themau penodol i bob dydd o leoliadau'r eisteddfodau, gwahanol gymeriadau ar y Maes, seremoniau, profiadau cystadlu, cyngherddau, stondinwyr a charafanwyr.

Yn ogystal ag ar y we mae'r Eisteddfod wedi darparu cylchgrawn, Dathlu 150, sydd ar gael ar y Maes.

Gwynt ystormus

Fe fydd yr atgofion hefyd yn cael eu rhannu a'u gweld ar wefan Casgliad y Werin er mwyn creu archif ddiddorol a defnyddiol o hanes diweddar yr Eisteddfod.

Ond sut wlad oedd Cymru 150 mlynedd yn ôl? Sut Eisteddfod oedd hi a be arall oedd yn digwydd yng Nghymru a'r byd ar y pryd?

Yn ôl Baner ac Amserau Cymru ym mis Awst 1861 roedd y tywydd wedi cael effaith ar y Pafiliwn.

"....yn ddisymwth, cododd yn wynt ystormus tua chanol dydd, dydd Sabath, a chwythwyd y deyrnbabell (Pafiliwn) i lawr yn chwilfriw. Yr oedd y fath ddigwyddiad mor agos i ddydd yr eisteddfod yn ddigon i wangalonni y galon ddewraf; ond yn lle pendroni uwchben y galanastra, penderfynodd y dewrddyn awenyddol, Alaw Goch, a'r pwyllgor, i fyned ynghyd â chyfaddasu u Marchnad-dy i gynnal yr eisteddfod ynddi: a phan ystyriom yr amser bychan oedd ganddynt tuag at gyflawni y fath orchwyl aruthrol, y maen hynod ei fod gystal."

Yn ystod y flwyddyn 1861, pan oedd Henry John Temple, 3ydd Is-iarll Palmerston, yn Brif Weinidog y DU, fe ddechreuodd Banner ac Amserau Cymru gyhoeddi ddwywaith yr wythnos.

Y Frenhines Fictoria oedd yn teyrnasu ac fe gafodd y cyfrifiad ei gynnal ar Ebrill 7 1861.

Yn ôl yr ystadegau roedd 1,286,323 yn byw yng Nghymru.

Yn yr Eisteddfod yn Aberdâr, Lewis William Lewis wnaeth ennill y Gadair.

Cysylltiad â 2011

Ymhlith y rhai gafodd eu geni yn ystod y flwyddyn yr oedd Clara Novello Davies, mam Ivor Novello; Carneddog (Richard Griffith); y chwaraewyr rygbi rhyngwladol David Gwynn, Evan Roberts ac Alfred William Hughes, llawfeddyg a sefydlydd Ysbyty Cymreig yn Ne Affrica.

Bu farw'r gwleidydd Thomas Lloyd-Mostyn a'r bardd Morris Davies (Meurig Ebrill).

Mae 'na gofnod am y tro cyntaf yn y DU yn 1861 o'r Japanese Knotweed a hynny ym Maesteg, rhywbeth sy'n dal i fodoli wrth i waith ymchwil gael ei gynnal yn yr 21ain Ganrif i daclo'r tyfiant.

Yn 1861 y cychwynnodd Pryce Pryce Jones fusnes yn Y Drenewydd.

Roedd o'n arloeswr ym myd archebu nwyddau drwy'r post ac yn gynharach eleni fe wnaeth cwmni Shop Direct , oedd yn un o ddisgynyddion cwmni Pryce Pryce Jones, gau eu swyddfa yn Y Drenewydd.

Yn 1861 y gwnaeth David Davies Llandinam adeiladu rheilffordd Croesoswallt a'r Drenewydd a Griffith John oedd y cennad Cristnogol cyntaf i dreiddio i ganol China.

I rannu atgofion neu i ddarllen am fyw o atgofion gallwch ymweld â gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol .




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


HEFYD
Nodi lleoliad yr Eisteddfod gynta
11 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific