British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011, 11:14 GMT 12:14 UK
Cynnydd mewn biliau nwy a thrydan i gwsmeriaid Swalec

Nwy
Fe fydd cynnydd yn y biliau o ganol mis Medi ymlaen

Cwmni Scottish & Southern Energy (SSE) yw'r cwmni nwy a thrydan diweddara i gyhoeddi cynnydd mewn prisiau.

Fe fydd biliau trydan cartrefi yn codi ar gyfartaledd 11% a biliau nwy ar gyfartaledd 18% o Fedi 14 ymlaen.

Ymhlith cwmnïau SSE mae Southern Electric, Scottish Hydro - a Swalec sy'n cyflenwi miloedd o gartrefi yn ne Cymru.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i gwmni Nwy Prydain gyhoeddi y bydd eu prisiau nwy a thrydan yn codi ar Awst 18.

Yn ôl SSE, daw'r penderfyniad ar ôl cynnydd yn y pris cyfanwerthu.

£2.1 biliwn

Mae Scottish Power hefyd wedi cyhoeddi cynnydd mewn prisiau ym mis Mehefin wrth i bris nwy godi 19% a thrydan 10% o ddechrau mis Awst ymlaen.

Rhybuddiodd SSE ym mis Mai y gallai biliau gynyddu oherwydd y cynnydd mewn pris cyfanwerthu.

Daw'r cyhoeddiad wrth iddyn nhw nodi cynnydd yn eu helw cyn treth flynyddol o 29% i £2.1 biliwn.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Llais Defnyddwyr fod 5 miliwn o gartrefi'r DU yn gwario dros 10% o gyfanswm eu hincwm ar filiau ynni hynny yw mae tlodi ynni yn effeithio arnyn nhw.

Maen nhw'n rhagweld y bydd hyn yn codi i bron 6.5 miliwn os ydi'r chwe phrif gwmni ynni yn codi eu prisiau.

EFFAITH AR GWSMERIAID
Fe fydd y cyhoeddiad yn effeithio ar 5.2 miliwn o gwsmeriaid trydan a 3.6 miliwn o gwsmeriaid nwy yn y DU
Fe fydd bil person sy'n derbyn nwy (3,300kWh) a thrydan (16,500kWh) yn £1,265 y flwyddyn, cynnydd o £171 i £1,094
Cynnydd ar gyfartaledd o 11% ar fil trydan a 18% ar fil nwy

"Mae'r cynnydd yma, y mwya gan gyflenwr trydan yn ne Cymru, yn rhoi pwysau ychwanegol ar y rhai sydd eisoes yn wynebu trafferthion ariannol ac fe fydd llawer mwy yn diodde o dlodi tanwydd," meddai Lindsey Kearton, llefarydd ynni Llais Defnyddwyr Cymru.

'Mae'n wych bod y cwmnïau yn dechrau ymateb i'r pryderon y mae Llais Defnyddwyr wedi eu codi ond mae'r gwahaniaeth yn dal yn enfawr rhwng y cwsmer a'r cwmni.

'Rhaid i Ofgem sicrhau bod y prisiau yma yn deg."

Mae gan SSE 5.2 miliwn o gwsmeriaid trydan a 3.6 miliwn o gwsmeriaid nwy.

Fe ddywedodd y cwmni na fyddai 'na gynnydd pellach tan Awst 1 2012.

"Rwy'n ymddiheuro ein bod yn gorfod cyhoeddi cynnydd mewn biliau i gwsmeriaid ar adeg pan mae cyllidebau nifer eisoes o dan straen," meddai Prif Weithredwr SSE, Ian Marchant.

"Mae'r cynnydd yn y pwysau ar brisiau wedi bod yn ormod."

Fel yn ystod y tair blynedd ariannol ddiwethaf, meddai, fe fyddai'r swm buddsoddi yn fwy na'r elw.



HEFYD
Biliau nwy yn codi 18%
08 Gorff 11 |  Newyddion
Ofgem: Newid y drefn
28 Ebr 11 |  Newyddion
Biliau nwy i godi 9.4%
01 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific