British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2011, 08:13 GMT 09:13 UK
Mullanys: Achos yn tynnu at ei derfyn

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio ym mis Gorffennaf 2008

Disgwylir i achos llys dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpwl o Gymru yn y Caribî dynnu at ei derfyn.

Bu farw Ben a Catherine Mullany o Bontardawe ar ôl cael eu saethu yng ngwesty Cocos ar ynys Antigua ym mis Gorffennaf 2008.

Mae Ave Howell, 20 oed, a Kaniel Martin, 23 oed, yn gwadu eu llofruddio.

Disgwylir i'r rheithgor fynd allan i ystyried eu dyfarniad yn ystod y dyddiau nesaf.

Cafodd Mr a Mrs Mullany eu llofruddio ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27, 2008.

Bu farw Mrs Mullany - oedd newydd gymhwyso i fod yn feddyg - yn syth.

Tystion

Roedd ei gŵr yn astudo i fod yn ffisiotherapydd a bu farw wythnos yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghymru.

Mae tua 90 tyst wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos, bob un ohonyn nhw wedi eu galw gan yr erlyniad.

Wnaeth yr amddiffyniad ddim cynnig unrhyw dystiolaeth heblaw am wadu yn ystod yr achos sydd wedi para wyth wythnos.

Gwrthododd y ddau amddiffynnydd dyngu llw a chynnig tystiolaeth yn ystod yr achos.

Disgwylir i'r rheithgor glywed y cyntaf o'r areithiau cloi ddydd Iau.

Dywedodd gohebydd BBC Cymru, Roger Pinney, sydd yn Antigua: "Gwnaeth Kaniel Martin ddatganiad byr o'r doc heb dyngu llw.

"Dywedodd y datganiad ei fod o dan ddylanwad cyffuriau a diod pan gafodd Mr a Mrs Mullany eu saethu.

"Dylai'r achos orffen ymhen ychydig ddyddiau."

Mae'r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o lofruddio perchennog siop leol yn Antigua, Woneta Anderson, 43 oed.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Mullanys: Olion ar ddillad
13 Gorff 11 |  Newyddion
Priodferch wedi ei saethu unwaith
07 Gorff 11 |  Newyddion
Heddlu Antigua yn clustfeinio
30 Meh 11 |  Newyddion
'Modd agor clwyd heb allwedd'
22 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific