British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 19:13 GMT 20:13 UK
Ysgol newydd: Pryder am y Gymraeg yn Nyffryn Tywi

Rhieni am wella darpariaeth addysg Cymraeg

Dywed rhieni yn Nyffryn Tywi na fydd ysgol uwchradd newydd yn ardal Ffairfach, Llandeilo, yn bodloni'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hagor yn 2015, a bydd ysgolion Tregib (Llandeilo) a Phantycelyn (Llanymddyfri) yn cau.

Dywed rhai rhieni fod angen ysgol sy'n dysgu'r rhan fwyaf o bynciau, ac eithrio gwyddoniaeth, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond statws 2B fydd yr ysgol newydd, lle mae yna ddewis i dderbyn yr holl wersi drwy gyfrwng y Saeseng, neu 80 % drwy gyfrwng y Gymraeg.

Darpariaeth

Yn ôl rhai rhieni dylid sefydlu ysgol categori 2A, fel Ysgol Maes yr Yrfa, lle mae 80% o'r pynciau yn cael eu dysgu drwy'r Gymaeg.

Bydd yn rhaid i deuluoedd sydd am i'w plant gael addysg 2A anfon eu plant i Ysgol Maes yr Yrfa yng Nghefneithin.

Ysgol Pantycelyn
Mae rhai rhieni yn pryderu am addysg Gymraeg yr ardal

Dywed Dr Hywel Glyn Lewis, darlithydd mewn dwyieithrwydd, y dylai Cyngor Sir Caerfyrddin ystyried gweithio ar y cyd gyda Chyngor Powys a sefydlu ysgol 2A ar gyfer yr ardal.

Byddai hynny o bosib yn golygu gwasanaethu ardaloedd Pontsenni a Thecastell yn ne Powys.

Pryder Ddr Lewis yw y byddai plant sy'n mynychu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn colli'r iaith drwy fynychu ysgolion uwchradd lle nad oes darpariaeth ddigonol.

Mae rhieni ardal Llanymddyfri hefyd yn anhapus fod yr ysgol newydd wedi ei lleoli yn ardal Llandeilo.

Dywed ymgyrchwyr y dylid wedi dewis ardal sydd rhwng Llandeilo a Llandysul.



HEFYD
Rhieni yn parhau'n anfodlon
10 Mai 11 |  Newyddion
Hwb i gynllun ad-drefnu ysgolion
22 Maw 11 |  Newyddion
Dyfodol ysgolion yn hollti barn
21 Ebr 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific