British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 15:28 GMT 16:28 UK
Lynette: Tystiolaeth putain

Lynette White
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 gwaith yn ei fflat

Yn Llys y Goron Abertawe mae putain, gafodd ei holi yn ystod yr ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White, wedi bod yn rhoi tystiolaeth.

Roedd y profiad, meddai Angela Psaila, 46 oed, fel bod mewn ffilm a'r plismyn ar y pryd yn ymddwyn fel cyfarwyddwyr am eu bod yn dweud wrthi ble oedd pobl i fod y noson y cafodd Ms White ei thrywanu i farwolaeth.

Cafodd Ms White, oedd yn gweithio fel putain, ei llofruddio mewn fflat yng Nghaerdydd ar Chwefror 14, 1988.

Fe gafodd ei thrywanu 50 o weithiau.

Mae wyth o gyn-blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Dywedodd Miss Psaila nad oedd "dim cysylltiad o gwbl" rhyngddi hi â'r llofruddiaeth ond bod ditectifs wedi ei holi droeon.

Yn y pen draw, roedd yr hyn ddywedodd wrth yr heddlu yn rhan o'r dystiolaeth ffug yn erbyn Tri Caerdydd.

CYHUDDIADAU
GRAHAM MOUNCHER (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
THOMAS PAGE (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
RICHARD POWELL (Cyn Uwch-arolygydd wedi ymddeol)
JOHN SEAFORD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
MICHAEL DANIELS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PETER GREENWOOD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL JENNINGS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL STEPHEN (Cyn-Sargant wedi ymddeol)
Yr uchod yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae Mr Mouncher hefyd yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.
VIOLET PERRIAM a IAN MASSEY yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Eisoes mae'r erlyniad wedi honni bod cyn-blismyn Heddlu'r De wedi ffugio tystiolaeth yn erbyn y Tri, sef Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris.

Cafodd y tri eu carcharu ar gam ym 1990 a'u rhyddhau ar apêl ym 1992.

Dywedodd Miss Psaila wrth y llys: "Fe ges i fy nhrin fel ci, ci oedd yn cael ei bwnio.

"Roedd y plismyn yn gweiddi arna i ac yn mynnu 'mod i yn y fflat adeg y llofruddiaeth.

'Ffiaidd'

"Ac roedden nhw'n mynnu 'mod i'n rhan o'r llofruddio."

Dywedodd fod ymddygiad yr heddlu'n "ffiaidd".

Pan oedd wedi gofyn a allai adael Gorsaf Heddlu Trebiwt, yr ateb oedd "Na".

Pan oedd wedi gofyn am gyfreithiwr yr ateb eto oedd "Na".

Ar Dachwedd 17, 1988, meddai, roedd ei datganiadau'n dweud ei bod hi'n gwarchod mab Leanne Vilday gartre yn oriau mân Chwefror 14, 1988.

Newidiodd ei datganiad wedi i'r Ditectif Gwnstabl Michael Daniels a'r Ditectif Gwnstabl Bryan Gillard ei holi'n galed.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Llys: 'Heddlu'n holi'n ymosodol'
08 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: Heddlu wedi 'bwlio' tystion
07 Gorff 11 |  Newyddion
'Wyth wedi ffugio tystiolaeth'
06 Gorff 11 |  Newyddion
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific