British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 23 Gorffennaf 2011, 12:31 GMT 13:31 UK
Clodfori'r lle chwech mewn hanes

Toiled hynafol
Mae'r arddangosfa o doiledau hanesyddol i'w weld tan Medi 3

Mae amgueddfa yn Aberystwyth sydd dafliad carreg o lan y môr yn hen gyfarwydd ag ymwelwyr yn gofyn y cwestiwn 'Ble mae'r toiled os gwelwch yn dda?'

Ond yr haf yma fe fydd gan ymwelwyr ddigon o ddewis o doiledau am fod gan yr amgueddfa leol sioe o hen dai bach yn y brif oriel.

Mae'r arddangosfa o doiledau hanesyddol 'Tai Bach a Mwy' i'w gweld yn Amgueddfa Ceredigion tan 3 Medi eleni.

Yn ôl Curadur Amgueddfa Ceredigion, Michael Freeman, daeth y syniad i gynnal yr arddangosfa am fod gymaint o bobl yn defnyddio cyfleusterau'r amgueddfa

Mae 'na amrywiaeth eang o ffeithiau diddorol, gan gynnwys delweddau o doiledau Rhufeinig cynnar
Michael Freeman

"Mae pobl ar eu gwyliau a phobl leol yn aml yn dod i mewn i ddefnyddio ein cyfleusterau ni," dywedodd Mr Freeman."

"Awgrymodd un o Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion y dylem gynnal arddangosfa o'n holl botiau dan gwely, comodau, sisternau ac ati, felly dyna wnaethom ni."

Tŷ bach

Mae staff a gwirfoddolwyr wedi treulio'r wythnosau diwethaf yn glanhau ac yn sgleinio'r porslen a'r pres.

"Mae'r sioe yn llawn gwybodaeth a hwyl," dywedodd Mr Freeman.

"Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ffeithiau diddorol, gan gynnwys delweddau o doiledau Rhufeinig cynnar, adran am doiledau'r castell yn Aberystwyth ac yr ydym wedi hyd yn oed ail-greu tŷ bach.

Toiledau yn Amgueddfa Ceredigion
Gwahoddwyd y cyhoedd i gyfrannu at yr arddangosfa ymlaen llaw

" Mae'r tŷ bach yn ddiddorol gan fod ganddo ddwy sedd doiled."

Hefyd yn yr arddangosfa ceir enghreifftiau o sisternau soffistigedig a gwybodaeth am y toiledau cyhoeddus cyntaf a daeth y ddau i fodolaeth ar ôl cael cyflenwad da o ddŵr.

Dywedodd Mr Freeman: "Cafwyd gwelliannau o ran draenio a chyflenwi dŵr glân ar ôl sylweddoli fod dŵr llygredig yn achosi afiechyd megis colera a theiffoid.

"Cafwyd llawer o farwolaethau oherwydd afiechydon yng nghanol oes Fictoria ac ni ddaeth pobl i sylweddoli beth oedd yn achosi'r afiechydon am flynyddoedd lawer.

"Ymhen amser gwelwyd gwell glanweithdra a chafwyd sawl deddf iechyd cyhoeddus a oedd yn sicrhau llai o afiechydon."

Gwahoddwyd y cyhoedd i gyfrannu at yr arddangosfa ymlaen llaw.

Bydd yr casgliad o doiledau yn cael ei arddangos tan Fedi 3 2011.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific