British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 15:15 GMT 16:15 UK
Dim baich gweinyddol i ran am gynnig bagiau plastig

Person yn cario bagiau siopa
Mae cwmniau sy'n cyflogi llai na 10 yn cael eu heithrio rhag cadw cofnodion

Mae Gweinidog Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi mesurau fel na fydd baich gweinyddol ar fusnesau bach o ran codi tâl am fagiau plastig.

O ddechrau mis Hydref fe fydd siopwyr Cymru yn gorfod talu o leiaf 5 ceiniog am bob bag er mwyn gostwng nifer y bagiau sy'n cael eu defnyddio bob blwyddyn.

O ganlyniad i'r polisi fe fydd perchnogion siopau yn gorfod cadw cofnod o nifer y bagiau maen nhw'n eu gwerthu a nodi sut mae'r arian, sy'n cael ei godi, yn cael ei wario.

Ond mae John Griffiths wedi cyhoeddi na fydd busnesau sy'n cyflogi llai na 10 o bobl yn gorfod cadw cofnodion.

Yn ôl y gweinidog mae'r mwyafrif helaeth o fagiau yn cael eu cymryd o siopau yn ddiangen ac yn creu llanast yn ein cypyrddau ac ar draws y wlad neu'n mynd i domenni sbwriel.

'Gwrando'

"Pwrpas codi tâl am ddefnyddio bagiau yw er mwyn gostwng nifer y bagiau rydyn ni'n defnyddio", meddai.

"Mae'n bolisi sydd wedi cael ei groesawu gan bobl ar draws Cymru ac mae'n newyddion da iawn i'n gwlad.

"Rwyf wedi gwrando ar y Ffederasiwn Busnesau Bach a chynrychiolwyr eraill o'r byd busnes.

"Er bydd rhaid i bob manwerthwr godi tâl am fagiau o Hydref 1, rwy'n hapus i allu cyhoeddi y bydd y rheini sy'n cyflogi llai na 10 o bobl yn cael eu heithrio rhag cadw cofnodion."

Pryderon

Mae Janet Jones, Cadeirydd y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru wedi croesawu'r cyhoeddiad.

"Rydyn ni'n falch bod y Gweinidog wedi gwrando ar ein pryderon ynglŷn â'r oblygiadau ymarferol i fusnesau bach", meddai.

"Fe fyddai'r cymhlethdod, yn ogystal â'r amser a chost ychwanegol o weinyddu'r drefn yn rhoi mwy o bwysau ar fusnesau bach sydd eisoes yn ceisio dod i'r afael a'r dirwasgiad, pris uchel tanwydd a chynnydd Treth ar Werth."



HEFYD
Gohirio a lleihau taliad bagiau plastig
01 Tach 10 |  Newyddion
Defnydd bagiau plastig wedi haneru
25 Awst 10 |  Newyddion
Cwyno am y 'brys' i godi tāl
02 Awst 10 |  Newyddion
Codi tāl am fagiau plastig?
03 Meh 10 |  Newyddion
Datgelu mesur gwastraff
23 Chwef 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific