British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 6 Awst 2011, 10:36 GMT 11:36 UK
Pobol y Brifwyl: Prydwen Elfed-Owens

Prydwen Elfed-Owens
Prydwen yw Llywydd y Llys Eisteddfod Genedlaethol 2011

Llywydd Llys yr Eisteddfod yw Prydwen Elfed-Owens, a hi yw'r fenyw gyntaf i lenwi'r rôl.

"Mae hyn yn anrhydedd," eglurodd.

"Mae gen i barch mawr i bawb arall sydd ar y cyngor, yn ddyn neu'n ferch, oherwydd wrth ddod i'w 'nabod nhw dwi'n gwerthfawrogi eu hymroddiad nhw i'r Eisteddfod."

Dywedodd hefyd faint yr oedd yn gwerthfawrogi gwaith staff yr Eisteddfod.

"Mae'n syndod bod tîm mor fach o staff yn gallu llwyfannu gŵyl mor fawr.

"Wedi'r cyfan dyma ŵyl sy'n cael mwy o oriau teledu nag unrhyw ŵyl arall heblaw am Wimbledon.

"Mae pobl fel Bryn Terfel, Ioan Gruffydd a Matthew Rhys yn diolch i'r Eisteddfod am gyfle i fod ar lwyfan ac ar y teledu."

Bwrlwm

Mae gan Prydwen atgofion cynnes o'i heisteddfod gyntaf.

"Dwi'n cofio fy modryb yn mynd â fi i Eisteddfod Caernarfon wedi cael tocynnau da iawn i fynd i eistedd yn y blaen i weld yr Archdderwydd William Morris.

"Roedd o'n arwr mawr i mi a dyma'r tro cyntaf i mi weld y seremoni."

Prydwen wnaeth agor yr Eisteddfod yn swyddogol yn ystod y cyngerdd agoriadol ddydd Gwener.

Ac roedd hi'n falch o gael cyfle i edrych ymlaen at y bwrlwm ar y Maes.

"Heblaw bod hi'n ŵyl fyrlymus a ffenest siop i'n Cymreictod, mae'r maes yn llawn gweithgareddau o ddawns i lên i actio i gelf.

Mae Prydwen yn byw yn Nhrefnant, Sir Ddinbych, ac yn gyfarwydd iawn ag ardal Wrecsam.

"Bues i'n byw yn yr ardal yn blentyn," esboniodd.

"Es i'r ysgol yng Ngwynfryn a byw ym Mwlchgwyn.

"Mae'r ardal yn annwyl iawn i mi."

Mae mam Prydwen yn 94 oed, yn byw yn Wrecsam ond fydd hi ddim yn ymweld â'r Eisteddfod ei hun.

"Ond bydd yn gwylio bob munud ar y teledu, yn gwylio'n awchus."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific