Cafodd y cais ei ddisgrifio fel un 'uchelgeisiol'
|
Mae'r rhai sy'n cefnogi ymdrech i sefydlu gorsaf radio newydd yn y gorllewin wedi dweud eu bod yn ffyddiog y bydd y cais yn cael ei dderbyn o ran egwyddor. Dydd Iau yw'r diwrnod ola ar gyfer ceisiadau i Ofcom, y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant darlledu, ar gyfer trwyddedau i sefydlu gorsafoedd radio cymunedol. Bwriad cefnogwyr Radio Beca yw sefydlu gorsaf fyddai'n gwasanaethu siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n rhoi pwyslais ar ddarlledu yn Gymraeg ac nad yw'r gorsafoedd presennol yn rhoi gwasanaeth teilwng i siaradwyr yr iaith yn y gorllewin. "Mae'r cais yn un teilwng iawn ac yn gais fydd yn haeddu pob sylw," meddai Geraint Davies, Cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion ac un o'r rhai sy' tu cefn i'r fenter newydd. Canllawiau ieithyddol Disgrifiodd Mr Davies y cais fel un uchelgeisiol. "Dyw'r Gymraeg ddim yn cael lle teilwng ar radio lleol ar hyn o bryd, yn wir mae'r cwmni sy'n berchen ar Radio Ceredigion wedi dilyn polisi gwrth Gymraeg o'r diwrnod cyntaf."
Dywed rhai nad yw'r Gymraeg yn cael lle teilwng ar yr orsaf
|
Dywedodd Martin Munford rheolwr gyfarwyddwr Town and Country, perchnogion Radio Ceredigion, fod yr orsaf yn cyd-fynd yn llwyr gyda'r canllawiau ieithyddol gafodd eu gosod gan Ofcom. "Rydym yn wasanaeth Cymraeg ac yn falch o wneud hynny," meddai. Dywedodd hefyd y byddai'n gefnogol i radio gymunedol fyddai'n darlledu yn Gymraeg. "Ond byddai'n rhaid sicrhau na fyddai hynny'n groes i ganllawiau Ofcom sy'n gwarchod cwmnïau radio masnachol." Dywedodd Radio Beca y bydden nhw'n darlledu yn y ddwy iaith gyda'r Gymraeg ar yr oriau brig. Mae diffiniad Ofcom o radio cymuned fel arfer yn cyfeirio at ardal rhwng pump a deg cilomedr. Llacio'r diffiniad? Yn aml, mae radio cymuned yn gwasanaethu lleiafrifoedd ethnig o fewn ardaloedd dinesig. Ond dyw'r diffiniad o ran maint daearyddol ddim yn un statudol. Gobaith cefnogwyr Radio Beca yw y bydd Ofcom yn ystyried llacio'r diffiniad oherwydd gofynion y gymuned Gymraeg yng ngorllewin Cymru. Mae tua 10 o orsafoedd radio cymunedol yng Nghymru. Dywedodd llefarydd ar ran Ofcom fod rhaid i'r ceisiadau ar gyfer sefydlu radio cymuned ddod i law erbyn dydd Iau, Gorffennaf 21. Mae disgwyl i'r broses gymryd rhai misoedd cyn y bydd penderfyniad terfynol.
|