British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 11:26 GMT 12:26 UK
Plaid: Etholiad yn y Flwyddyn Newydd

Ieuan Wyn Jones
Roedd Ieuan Wyn Jones wedi cyhoeddi y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn arweinydd

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd y frwydr i olynu Ieuan Wyn Jones fel arweinydd Plaid Cymru yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Y nod yw cael arweinydd newydd yn y swydd cyn etholiadau cyngor mis Mai 2012.

Eisoes cyhoeddodd Mr Jones ei fwriad i roi'r gorau i'r arweinyddiaeth wedi perfformiad siomedig Plaid Cymru yn Etholiadau'r Cynulliad yn gynharach eleni.

Mae un o ffigyrau amlwg y blaid, y Dr Eurfyl ap Gwilym, ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o strategaeth y blaid.

Mae disgwyl y bydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn - sy'n golygu y gall enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth agor ym mis Ionawr, gydag arweinydd newydd yn cael ei benodi erbyn Mawrth 2012.

'Trefnus'

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor Cenedlaethol y blaid am y modd trefnus y maen nhw wedi cynnal yr adolygiad wedi etholiadau mis Mai.

"Ac rwy'n fodlon y bydd amserlen yr adolygiad yn caniatáu i'r ymgeisio am yr arweinyddiaeth ddechrau yn 2012 ac mi fydd modd i ddoniau diamheuol ein tîm o Aelodau Cynulliad ddangos eu huchelgais i arwain y blaid ...

Rydym hefyd wedi dangos ein gweledigaeth wahanol fel plaid ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny o dan fy arweinyddiaeth tan y bydd hi'n amser i mi drosglwyddo'r awenau i arweinydd newydd
Ieuan Wyn Jones AC

"Gyda'r unigolion sydd gennym, mae'n amlwg y bydd dyfodol y blaid mewn dwylo da.

"O dan fy arweinyddiaeth mae Plaid Cymru wedi bod drwy gyfnod llwyddiannus mewn llywodraeth ac wedi parhau i wthio'u hagenda ers etholiadau mis Mai.

"Rydym wedi gweithredu fel gwrthblaid adeiladol a chadarn i'r Lywodraeth Lafur ers yr etholiad ac wedi dangos eu diffyg uchelgais i Gymru.

"Rydym hefyd wedi dangos ein gweledigaeth wahanol fel plaid ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny o dan fy arweinyddiaeth tan y bydd hi'n amser i mi drosglwyddo'r awenau i arweinydd newydd."

'Cyfle gwych'

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Ellen ap Gwynn: "Yn dilyn cyhoeddiad Ieuan bydd gofyn i Bwyllgor Cenedlaethol y Blaid gymeradwyo yn ei gyfarfod nesaf drefniadau ar gyfer etholiad arweinyddol.

"Byddaf yn gofyn i'r pwyllgor gymeradwyo amserlen sy'n sicrhau y bydd arweinydd newydd yn ei le erbyn cynhadledd wanwyn y blaid ym mis Mawrth.

"Bydd y broses etholiadol felly'n dechrau ar gychwyn Ionawr 2012.

"Bydd y misoedd i ddod yn gyfle gwych i gefnogwyr hen a newydd fod yn rhan o'r broses o adfywio'r blaid a bod yn rhan o'r etholiad yn y Flwyddyn Newydd am arweinydd newydd Plaid.

"Rwy'n falch y bydd Ieuan yn parhau gyda'r gwaith pwysig o arwain y blaid tan y bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau yn y gwanwyn.

"Mae ei gyfraniad i'r blaid ac i'r genedl wedi bod yn enfawr, a hoffwn ddiolch iddo unwaith eto am arwain Plaid Cymru."



HEFYD
Plaid: 'Angen bod yn uchelgeisiol'
28 Meh 11 |  Newyddion
Dim diddordeb yn Nhy'r Arglwyddi
16 Meh 11 |  Newyddion
Marathon o ras i arwain Plaid Cymru
14 Mai 11 |  Newyddion
Ieuan Wyn Jones i sefyll i lawr
13 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific