Caeodd cangen banc Lloyds yn Llandysul gynharach eleni
|
Mae ymgyrch wedi dechrau i geisio achub cangen banc HSBC yng Ngheredigion. Eisoes mae pobl leol yn Llandysul wedi dechrau deiseb fel rhan o'r ymgyrch. Mae'r cwmni bancio hefyd yn bwriadu cau cangen yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys. Dywedodd y banc nad oedd yn ymarferol cadw cangen Llandysul ar agor am nad oedd digon o bobl yn ei defnyddio.
 |
Mae'r broblem hon yn rhan o'r dirywiad mewn gwasanaethau gwledig sy'n cynnwys cau swyddfeydd post
|
Ers 2009 mae'r cwmni wedi cau 11 cangen yng Nghymru. Dywedodd llefarydd: "Mae gennym ni £100m i wario ar ddiweddaru a gwella ein rhwydwaith bob blwyddyn ac rydyn ni'n ceisio buddsoddi mewn banciau i gynyddu ein cwsmeriaid. "Y cam olaf yw cau banciau." 'Siomedig' Dywedodd Arweinydd Cyngor Ceredigion, Keith Evans, sydd hefyd yn ddyn busnes lleol, fod y penderfyniad i gau'r banc yn Llandysul y ei siomi. "Rydw i wedi bod yn berchen ar gyfri banc yng nghangen HSBC Llandysul ers 40 mlynedd ac rwy'n siomedig iawn ei fod yn mynd i gau. "Caeodd cangen Lloyds yn Llandysul rai misoedd yn ôl ac o ganlyniad fe drosglwyddodd llawer o bobl eu cyfri i HSBC. "Mae'r broblem hon yn rhan o'r dirywiad mewn gwasanaethau gwledig sy'n cynnwys cau swyddfeydd post."
|