British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 10:25 GMT 11:25 UK
Gwerthu eglwys ym Maerdy i blwyfolion?

Eglwys Yr Holl Saint, Maerdy, Y Rhondda
Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae angen gwario £250,000 ar yr adeilad

Mae ymgyrchwyr sy'n brwydro i arbed eglwys yn y Rhondda rhag cau yn dweud eu bod yn ystyried cynnig gan yr Eglwys yng Nghymru i werthu'r adeilad iddynt.

Gwnaed y cynnig gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan mewn cyfarfod yn Eglwys Yr Holl Saint ym mhentref Maerdy nos Fawrth.

Mae rhai ymgyrchwyr wedi datgan eu siom bod yr Eglwys yng Nghymru wedi gwrthod eu cynnig i beidio gwerthu'r adeilad am flwyddyn.

Ond dywedodd Dr Morgan ei fod wedi "ceisio cyfaddawdu".

"Mae gen i air o rybudd i bob aelod o'r Eglwys yng Nghymru fydd yn mynd i'r eglwys Ddydd Sul nesaf - ai eich eglwys chi fydd yr un nesaf ar y farchnad?"
Gerwyn Evans

Mae selogion yr Eglwys wedi gwrthod gadael yr adeilad ar ôl yr oedfa olaf a gafodd ei chynnal yno ar Orffennaf 3.

Yn ôl y protestwyr dydyn nhw ddim am symud o'r adeilad i'r neuadd gymunedol leol.

'Sefyllfa drist'

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae angen gwario £250,000 ar yr adeilad a gafodd ei agor ym 1885, ac mae'n rhaid gwerthu'r safle.

Cyngor Plwyfol Eglwysig wnaeth y penderfyniad cyn i'r Eglwys yng Nghymru roi sêl bendith.

Yn ystod y cyfarfod nos Fawrth dywedodd Dr Morgan ei fod yn "sefyllfa drist" i weld unrhyw eglwys gau.

Ond cynigodd werthu'r eglwys i'r gymuned am lai na phris y farchnad.

Dywedodd Dr Morgan wrth selogion yr eglwys: "Fe fyddwn ni'n ceisio trosglwyddo'r eglwys i'r elusen rydych chi wedi creu ac yna fe fyddwch chi'n berchen yr adeilad ac fe fyddwch chi'n gallu ei hadfer.

"Cyn gynted ag y bydd yr adeilad wedi ei hatgyweirio bydd addoli Anglicanaidd yn ailddechrau yma."

Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, y cynghorydd sir, Gerwyn Evans: "Gofynnon ni am yr hawl i addoli yma am 12 mis arall ond dywedodd yr Eglwys yng Nghymru, na.

"Ydy hyn yn arwydd o'r trywydd y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn ei ddilyn yn y dyfodol?

"Mae gen i air o rybudd i bob aelod o'r Eglwys yng Nghymru fydd yn mynd i'r eglwys Ddydd Sul nesaf - ai eich eglwys chi fydd yr un nesaf ar y farchnad?"



HEFYD
Aelodau yn gwrthod symud o eglwys
04 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific