British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 07:18 GMT 08:18 UK
Cytundeb newydd i Geraint Thomas

Geraint Thomas
Mae Thomas wedi ennill nifer o edmygwyr yn ystor y Tour De France eleni

Ddiwrnod yn unig wedi iddo ddatgelu ei fod wedi cael cynigion gan dimau eraill, mae Geraint Thomas wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Team Sky.

Mae Thomas - un o'r seiclwyr cyntaf i arwyddo i Team Sky ym mis Medi 2009 - wedi penderfynu aros gyda nhw tan 2014.

Dywedodd Thomas: "Mae'r dyfodol yn ddisglair dros ben i Team Sky, ac rwyf wrth fy modd yn medru chwarae rhan yn hynny."

Roedd Thomas - oedd ym mlwyddyn olaf ei gytundeb presennol - wedi cyfaddef fod cael sylw gan dimau eraill wedi rhoi hwb iddo.

'Potensial'

Ond wedi iddo arwyddo'r cytundeb newydd ddydd Mawrth dywedodd fod Team Sky yn dechrau gwireddu'r uchelgais o gael enillydd o Brydain i'r Tour De France erbyn 2014.

"Mae'r tîm wedi dangos eu potensial yn y 18 mis diwethaf," meddai, "ac rwyf wrth fy modd cael bod yn rhan o hynny.

"Mae'r rheolwyr wedi dangos ffydd gyda mi fel beiciwr, ac rwy'n teimlo fy mod yn gwella drwy'r amser."

Dywedodd pennaeth Team Sky, Dave Brailsford, fod Thomas yn ganolog i'w gynlluniau ar gyfer y tîm.

Dywedodd: "Rydym wedi bod yn benderfynol o'r dechrau i adeiladu a datblygu tîm o amgylch talent o gartref fel Geraint.

"Mae'r pythefnos diwethaf yn y Tour De France unwaith eto wedi dangos ei safon a'i allu, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy ganddo dros y tair blynedd nesaf."



HEFYD
Geraint Thomas yn ystyried symud?
19 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific