British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2011, 06:57 GMT 07:57 UK
£3.5m i hybu Cig Oen Cymru

Defaid
Bydd HCC yn gwario £3.5m dros dair blynedd

Mae cynllun werth £3.5 miliwn i hybu Cig Oen Cymru yn y DU, Ffrainc, Yr Eidal a'r Almaen wedi cael ei gyhoeddi.

Bydd mudiad Hybu Cig Cymru (HCC) yn gwario'r arian dros y tair blynedd nesaf.

Fe fydd HCC yn cyfrannu hanner yr arian, gyda'r gweddill yn dod o gronfa Ewropeaidd i hybu cynnyrch amaethyddol.

Cafodd y cynllun ei lansio yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Canolbwynt y cynllun fydd y ffaith i gig oen Cymru gael statws Dynodiad Daearyddol wedi'i Ddiogelu (PGI) meddai HCC.

Mae'r statws hwnnw'n dangos cynnyrch sy'n gysylltiedig gydag ardal ddaearyddol benodol.

'Newyddion gwych'

Dywedodd Cadeirydd HCC, Dai Davies: "Mae hwn yn newyddion gwych, ac mae'r gwaith ychwanegol y gallwn ei wneud ar ran cig oen PGI yn mynd i fod yn fuddiol i ffermwyr a phroseswyr cig yma yng Nghymru."

Dywedodd dirprwy weinidog amaeth Cymru, Alun Davies AC:

"Mae Cig Oen Cymru wedi cael ei glodfori fel y gorau yn y byd, ac rwyf wrth fy modd fod yr arian o Ewrop yn galluogi i HCC ddangos i weddill Ewrop pa mor dda yw Cig Oen Cymru."

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i farchnata Cig Oen Cymru, ac fe fydd ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn y pedair gwlad.

Bydd hefyd yn galluogi HCC i fynychu sioeau busnes rhyngwladol, a thalu am ymweliadau gan fanwerthwyr Ewropeaidd i Gymru, a gan broseswyr o Gymru i weddill Ewrop.

Dywedodd HCC ddydd Llun mai Canada fyddai'r targed nesaf i allforion Cig Oen Cymru, sydd ar hyn o bryd yn werth £111m i economi'r DU.



HEFYD
Statws arbennig i fwy o fwydydd?
23 Gorff 10 |  Newyddion
Cadeirydd newydd Hybu Cig Cymru
12 Hyd 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific