British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2011, 18:09 GMT 19:09 UK
Comisiwn ar ddatganoli ariannol i Gymru

Cheryl Gillan AS
Bydd y comisiwn yn cyhoeddi ei argymhellion yn ystod hydref 2012

Fe fydd comisiwn annibynnol yn cael ei sefydlu yn yr hydref i edrych ar ddatganoli ariannol i Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, fydd y comisiwn yn cyhoeddi ei argymhellion yn ystod yr hydref yn 2012, cyn edrych ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru.

Mewn cytundeb a sefydlwyd gan glymblaid y Ceidwadwyr â'r Democratiaid Rhyddfrydol roedd yna addewid i sefydlu proses debyg i Gomisiwn Calman i Gymru.

Sefydlwyd Comisiwn Calman yn 2007 i edrych ar ddatganoli yn yr Alban a'i grymoedd ariannol.

Fformiwla Barnett

Yn ôl Cheryl Gillan, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn atebol am yr arian mae'n ei wario, ac mi fydd cyd-weithio rhwng llywodraethau a phleidiau gwleidyddol yn sicrhau atebolrwydd ariannol i'r cynulliad.

Ychwanegodd: "Bydd y cydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn parhau dros yr haf.

"Rwy'n bwriadu gwneud mwy o gyhoeddiadau ynglŷn â'r broses yn dilyn gwyliau'r haf."

Fe fydd y gwaith a chwblhawyd gan Gomisiwn Holtham hefyd yn cael ei ystyried gan y comisiwn newydd.

Dywedodd y comisiwn, o dan gadeiryddiaeth yr economegydd Gerry Holtham, fod Cymru'n colli £300 miliwn y flwyddyn oherwydd trefn gyllido Fformiwla Barnett.

Croesawodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, y datganiad gan Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n cymeradwyo'r cyhoeddiad o sefydlu comisiwn annibynnol i edrych ar ddatganoli ariannol i Gymru ac rwy'n sicr y bydd y comisiwn yn ystyried pob agwedd o adroddiad Holtham fel rhan o'i waith.

"Byddwn ni'n gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen cyn gynted â phosib i alluogi pecyn cyllid tecach i Gymru."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific