British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2011, 15:56 GMT 16:56 UK
Lloeren yn dilyn cywion sy'n mudo o Ddyffryn Dyfi

Cywion Cors Dyfi
Cafodd y cywion eu geni ym mis Mehefin

Mae dyfeisiadau lloeren ar gywion gweilch mewn gwarchodfa ym Mhowys cyn dilyn eu symudiadau wrth fudo i Affrica yn ystod yr Hydref.

Cafodd y tri chyw eu geni yng Nghors Dyfi, cartref Prosiect Gweilch y Dyfi, ym mis Mehefin.

Y rhain oedd y cywion gweilch cyntaf i'w geni yn Nyffryn Dyfi ers mwy na phedair canrif.

Mae'r nyth yn Ynyshir ar ben polyn telegraff 50 troedfedd o uchder.

Doedd tad y cywion, Monty, ddim wedi denu cymar am ddwy flynedd ers iddo ymgartrefu mewn nyth yn y warchodfa.

Ond wedi iddo ddychwelyd o Affrica ym mis Ebrill llwyddodd i gyplu â gwalch o'r enw Nora.

Camera fideo

Monty a Nora yw'r ail bâr o weilch sy'n magu cywion ar hyn o bryd yng Nghymru - mae'r pâr arall yn Aberglaslyn ger Porthmadog eisoes wedi geni cywion ers rhai blynyddoedd.

Mae ymwelwyr i Gors Dyfi wedi bod yn dilyn bywyd teuluol y Gweilch am fod lluniau dau gamera fideo wedi eu gosod yn y nyth yn cael eu dangos ar dair sgrîn yn y warchodfa.

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn sy'n rheoli'r safle.

Dywedodd rheolwr Prosiect Gweilch Dyfi, Emyr Evans: "Llwyddon ni i osod y dyfeisiadau lloeren ar y cywion mewn llai nag awr.

3,600 o filltiroedd

"Mae'r cywion yn iach iawn ac wedi cael digon o fwyd yn ystod chwe wythnos gyntaf eu bywyd.

"Rydyn ni wedi canfod fod dau o'r cywion yn wrywaidd a'r llall yn fenywaidd."

Disgwylir i'r cywion ddechrau eu taith 3,600 o filltiroedd i Affrica ym mis Medi.

Bydd y dyfeisiadau lloeren yn dangos lleoliad cywir yr adar o fewn ychydig o fetrau bob awr.

Mae'r BBC wedi ariannu dwy o'r dyfeisiadau ac mae Prosiect Gweilch Dyfi wedi lansio apêl i dalu am y drydedd.



HEFYD
Apl i gadw draw o weilch Dyfi
20 Meh 11 |  Newyddion
Cywion: Cynta mewn canrifoedd
06 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific