British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2011, 10:29 GMT 11:29 UK
Ambiwlans awyr Cymru yn ehangu gwasanaeth y Canolbarth

Hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru
Mae'r elusen wedi cyflawni mwy na 14,500 taith er 2001

Bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn ehangu eu gwasanaeth brys yng nghanolbarth Cymru i ddau ddiwrnod ychwanegol bob wythnos.

Ar hyn o bryd dim ond am bum niwrnod yr wythnos mae'r gwasanaeth ar gael.

Dywedodd yr elusen fyddai'r gwasanaeth yn cael ei weithredu am gyfnod prawf o chwe mis gyda'r bwriad i'w weithredu'n barhaol.

Mae'r penderfyniad i ehangu'r gwasanaeth - sy'n costio £1,500 am bob taith - yn dilyn ymgyrch diweddar gan yr elusen i godi arian.

Mae'r gallu i weithredu saith niwrnod yr wythnos mewn ardal mor anghysbell wedi bod yn fwriad gennym ers amser
Jason Williams

Lansiwyd y gwasanaeth ar gyfer y canolbarth - y trydydd o'i fath yng Nghymru - yn y Trallwng yn 2006.

Mae criw'r hofrennydd yn gallu teithio o'r Trallwng i Lanfair-Ym-Muallt ymhen 15 munud cyn cyrraedd ysbyty ymhen 15 munud arall.

Carreg filltir

Dywedodd Rheolwr Clinigol a Gweithrediadau Ambiwlans Awyr Cymru, Jason Williams: "Mae amser yn gwneud byd o wahaniaeth mewn achos brys.

"Mae'r gallu i weithredu saith niwrnod yr wythnos mewn ardal mor anghysbell wedi bod yn fwriad gennym ers amser."

Dechreuodd Ambiwlans Cymru weithredu eu gwasanaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001 ac ers hynny mae'r elusen wedi cyflawni mwy na 14,500 taith.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen, Angela Hughes: "Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir bwysig i'r elusen ond ein her nesaf yw cynnal y gwasanaeth am saith niwrnod yr wythnos."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific