British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011, 12:52 GMT 13:52 UK
Speedway i ddychwelyd i Gaerdydd

Speedway action at the Millennium Stadium
Bydd Grand Prix Speedway Prydain yn cael ei chynnal yn Stadiwm Y Mileniwm tan 2016

Mae cytundeb newydd yn golygu y bydd Grand Prix Speedway Prydain yn dychwelyd i Stadiwm Y Mileniwm yn 2012 am bum mlynedd arall.

Bydd ras y flwyddyn nesaf - a gynhelir ar Awst 25 - y deuddegfed i gael ei chynnal yn y stadiwm.

Cafodd cytundeb ei gytuno rhwng BSI Speedway, Stadiwm Y Mileniwm a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr BSI Speedway, Paul Bellamy:

"Rydym wrth ein bodd yn medru ymestyn ein cytundeb a'n hymrwymiad i Stadiwm Y Mileniwm.

"Fel arfer, fe fyddwn yn ceisio gwella a chynnig y profiad mwyaf anhygoel i'r cefnogwyr.

"Roedd ras eleni yn llwyddiant ysgubol, ac mae Caerdydd fel dinas wedi cymryd Speedway at ei chalon.

"Mae cael cytundeb pum mlynedd newydd yn newyddion gwych i ni, i'r cefnogwyr ac i Gaerdydd, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i flwyddyn wych arall o'n blaenau cyn y Grand Prix nesaf."

140 o wledydd

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn credu fod y ras bellach yn rhan bwysig o'r calendr chwaraeon yn y brifddinas, a dywedodd:

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi medru cyhoeddi pecyn ariannol ar gyfer y BSI Grand Prix rhwng 2012 a 2016 sy'n rhoi sefydlogrwydd i'r digwyddiad dyfu a ffynnu yng Nghymru.

"Mae'r digwyddiad yn denu ymwelwyr o'r tu allan i Gymru, ac yn rhoi hwb economaidd sylweddol i'r ddinas.

"Fe gafodd ras eleni ei dangos ar deledu mewn 140 o wledydd gan roi hwb mawr hefyd i broffil Cymru."



HEFYD
Stadiwm: 'Hwb o £1 biliwn'
24 Meh 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific