British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011, 11:35 GMT 12:35 UK
Colli cyn Archdderwydd

Geraint Bowen

Bu farw'r bardd, beirniad a'r golygydd, y Dr Geraint Bowen, yn 95 oed.

Roedd yn Archdderwydd rhwng 1978 a 1981.

Fe enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946 am ei Awdl Foliant i'r Amaethwr, teyrnged i'r cyfnod pan weithiodd ar y tir yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar y pryd dywedodd Syr Thomas Parry taw hon oedd "awdl fwya crefftus y ganrif" oherwydd meistrolaeth y bardd ar y mesurau caeth.

Cafodd ei eni yn Llanelli a'i addysgu yn Ysgol Sir Aberaeron ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru Caerdydd.

Bu'n athro yn Ysgolion Gramadeg Tonyrefail a Rhiwabon ac yna'n arolygydd ysgolion yn ardaloedd Caerdydd a Meirionnydd.

Ond fel ei frawd Euros, roedd yr awydd i farddoni yn cydio.

Meistrolgar

Roedd Geraint Bowen yn feirniad llenyddol praff ac yn awdur pedair cyfrol (Y Traddodiad Rhyddiaith (1970); Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (1974); Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif (1976) ac Ysgrifennu Creadigol (1972).

Roedd yn englynwr meistrolgar.

Y cyn archdderwydd Geraint Bowen wedi marw yn 95

Gyda'i wraig Zonia fe ysgrifennodd Hanes Gorsedd y Beirdd ac fe gyhoeddwyd y gyfrol honno ym 1991.

Roedd yn genedlaetholwr brwd a safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Wrecsam yn yr etholiad cyffredinol yn 1950.

Ac roedd hefyd yn ymgyrchydd yn erbyn cynlluniau i gladdu gwastraff niwclear yng nghanolbarth Cymru ac yn credu'n gryf yn undod y gwledydd Celtaidd.

Bu'n olygydd y Faner o 1977 hyd 1978, gan olynu Gwilym R Jones.

Treuliodd ugain mlynedd olaf ei fywyd yng Nghaeathro ger Caernarfon gyda'i wraig Zonia.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific