British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011, 09:25 GMT 10:25 UK
Ffermydd gwynt: Mwy o amser

Peilonau trydan
Bwriedir creu rhwydwaith o beilonau 154 troedfedd o uchder

Dywed ymgyrchwyr y bydd yna oedi pellach cyn bod cwmni National Grid yn dod i unrhyw benderfyniad terfynol am gynllun i godi is-orsaf drydan ddadleuol yn y canolbarth.

Yn wreiddiol roedd disgwyl penderfyniad yn yr hydref.

Mae yna wrthwynebiad chwyrn wedi bod yn Sir Drefaldwyn i'r syniad o godi is-orsaf unai yng Nghefn Coch neu Aber-miwl.

Byddai'r is-orsaf ar safle 19 erw ac yn cysylltu trydan 10 fferm wynt arfaethedig â'r Grid Cenedlaethol.

Mae cais cynllunio hefyd i godi rhwydwaith o beilonau 154 troedfedd o uchder a dros bellter o 26 milltir

Ym mis Mai teithiodd tua 1,500 o bobl o Bowys i Fae Caerdydd i wrthwynebu'r cynlluniau.

Mae cyngor Powys wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o'u polisi ar ffermydd gwynt.

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw penderfyniadau ynglŷn â chynlluniau o'r fath wedi eu datganoli ac mai Llywodraeth San Steffan fydd â'r gair olaf.



HEFYD
1,500 mewn protest
24 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific