British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011, 05:53 GMT 06:53 UK
Diciau: Undeb amaeth yn beirniadu'r oedi

Mochyn Daear
Mae'r cynllun difa wedi ei atal am y tro

Mae cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn llym am beidio â bwrw 'mlaen a'r cynllun difa moch daear yn Sir Benfro.

Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol eleni dywedodd Bob Parry mai gwastraff amser llwyr ydi sefydlu panel i ail edrych ar y dystiolaeth wyddonol ynglŷn â difa'r anifeiliaid er mwyn ceisio rheoli TB mewn gwartheg.

Mae is-lywydd NFU Cymru hefyd wedi dweud ei fod yn siomedig iawn nad ydi'r Gweinidog Amgylchedd wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am gynnwys a maes gwaith y panel annibynnol.

Mae arweinwyr y ffermwyr yng Nghymru yn cyhuddo'r llywodraeth o ddiffyg gweithredu benodi'r arbenigwyr.

Cafodd y cynllun difa ei atal ym mis Mehefin pan gyhoeddwyd y byddai'r panel annibynnol yn astudio'r wyddoniaeth.

Edrych 'mlaen

Dywedodd y gweinidog, John Griffiths, na fyddai'r difa yn digwydd tra bod y panel yn cynnal ymchwiliad.

Roedd y llywodraeth flaenorol, llywodraeth clymblaid Llafur-Plaid Cymru, wedi bwriadu cynnal y cynllun difa yn Sir Benfro a de Ceredigion.

Roedd Ymddiriedolaeth y Moch Daear wedi ennill apêl.

Dywedodd Bob Parry, cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru,

"Dwi'n meddwl ei fod yn benderfyniad hurt iawn.... yn fy araith ola' pan wnes i adael llywyddiaeth yr undeb, fe wnes i ddweud mai TB fyddai'r broblem yn y dyfodol.

"Rydan ni'n dal i gael arbrofion, chwarae politics efo'r diwydiant a bywoliaeth y ffermwyr llaeth.

"Maen nhw wedi cael digon o amser i edrych ar y wybodaeth.

"Mae'n wastraff arian cael panel arall gan arwain at oedi pellach."

Manylion

Ac fe wnaeth Ed Bailey llywydd NFU Cymru, feirniadu'r oedi.

"Mae 'na bedair wythnos ers i'r gweinidog ddweud y bydd panel o arbenigwyr yn ailedrych ar y dystiolaeth wyddonol sy'n ymwneud â'r diciâu.

"Mae Undeb NFU Cymru yn rhwystredig iawn nad oes 'na gyhoeddiad pellach wedi bod 'na manylion am y rhai fydd yn cynnal yr adolygiad."

Ychwanegodd Mr Bailey ei fod yn obeithiol y byddai Mr Griffiths yn defnyddio'r ymweliad â'r Sioe ddydd Mawrth i roi "llygedyn o obaith" i'r amaethwyr.

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y Cynulliad eu bod yn gwbl ymrwymedig i ddileu diciâu mewn gwartheg.

"Mae'r adolygiad yn cael ei gyd-lynu gan y prif ymgynghorydd gwyddonol i Gymru, Yr Athro John Harries.

"Y bwriad yw cefnogi a chryfhau ei waith."



HEFYD
Moch daear: Tri yn ymddiswyddo
29 Meh 11 |  Newyddion
Dim difa moch daear am y tro
21 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific