British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2011, 16:53 GMT 17:53 UK
50,000 yn heidio i'r Sioe Fawr

Prif Gylch y Sioe Frenhinol (Llun gan Iolo ap Dafydd)
Mae 'na waith wedi ei wneud ar y prif gylch yn y Sioe

Daeth bron 50,000 i Lanelwedd ddydd Llun ar ddiwrnod cynta'r Sioe Fawr.

Roedd hyn 3,800 yn llai na'r un diwrnod y llynedd.

Dywedodd y trefnwyr eu bod yn beio tywydd gwael a'r cyni economaidd.

Mae'r sioe yn para tan ddydd Iau ac mae disgwyl mwy na 200,000 o ymwelwyr.

Ymhlith yr ymwelwyr ddydd Llun roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gafodd ei herio gan chwech o ymgyrchwyr yn erbyn cynllun i godi melinau gwynt, is-orsaf bwer a pheilonau yn y canolbarth.

Gair olaf

Gofynnwyd i Mr Jones ymweld â'r safleoedd dan sylw a chytunodd ar yr amod y byddai Gweinidog ynni San Steffan hefyd yn bresennol.

Llywodraeth San Steffan sydd â'r gair olaf wrth roi caniatâd i gynlluniau o'r fath.

Roedd Cyfarwyddwr er Anrhydedd Sioe Frenhinol Cymru, Harry Fetherstonhaugh, wedi dweud y dylai gwella wyneb y prif gylch arddangos olygu na fyddai'r mwd difrifol gafodd ei achosi gan dywydd drwg y llynedd, 2007 a 2009, fod yn broblem.

Yn ogystal â gwaith ar y prif gylch mae dros £1 miliwn wedi cael ei wario ar adeilad newydd ar gyfer Aelodau'r Gymdeithas.

Ond mae Cadeirydd Cyngor y Sioe wedi rhybuddio y gallai cyflwr yr economi effeithio ar lif ariannol y dyfodol.

Adeilad newydd Aelodau'r Gymreithas (Llun gan Iolo ap Dafydd)
Mae gan Aelodau'r Gymdeithas adeilad newydd hefyd

Oherwydd toriadau gwariant cyhoeddus, mae rhai cyrff cyhoeddus wedi cwtogi eu presenoldeb yn y Sioe eleni, gyda Pharciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phenfro yn tynnu'n ôl yn llwyr.

Ond dywedodd ysgrifennydd y Sioe, Barry Jones, fod sefydliadau eraill wedi camu i'r adwy i lenwi'r bylchau ar y stondinau.

"Mae yna gyrff cyhoeddus sydd wedi gorfod edrych ar eu cyllidebau a thorri'n ôl ...," meddai.

"Ond rydym yn ffodus iawn o'r gefnogaeth sydd gennym yng Nghymru a thu hwnt i'r fath raddau fel bod unrhyw fwlch yn cael ei lenwi'n gyflym gan eraill sydd am fod yn bresennol."



HEFYD
Llai o stondinau yn Llanelwedd?
11 Gorff 11 |  Newyddion
£200,000 i wella prif gylch sioe
26 Meh 11 |  Newyddion
Elw i'r Sioe Frenhinol
17 Meh 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific