British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 16 Gorffennaf 2011, 11:00 GMT 12:00 UK
Gwyliau i gwsmeriaid er bod cwmni wedi dod i ben

Swyddfa Gill's Cruise Centre yng Nghaerdydd
Swyddfa Gill's Cruise Centre yng Nghaerdydd

Mae miloedd o bobl sydd wedi archebu gwyliau ar longau trwy gwmni Gill's o Gaerdydd wedi cael clywed y bydden nhw'n gallu mynd ar eu gwyliau, er bod y cwmni wedi dod i ben.

Roedd y cwmni'n trefnu gwyliau ar ran P&O, Cunard a Royal Caribbean.

Dywedodd Cymdeithas Cwmnïau Teithio Abta eu bod wedi dileu aelodaeth y cwmni a hynny oherwydd "methiant ariannol".

Doedd neb o'r cwmni ar gael i wneud sylw ac mae gwefan y cwmni yn dweud na allen nhw dderbyn ymholiadau ac archebion am wyliau newydd.

Dywedodd Abta bod teithiau sydd wedi cael eu harchebu drwy Gill's wedi eu gwarchod yn ariannol.

Fe ddylai unrhyw un sydd wedi archebu gwyliau gyda'r cwmni o dan drwydded Atol gysylltu gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil.

Os ydi'r daith wedi ei harchebu drwy gyflenwyr eraill yna fe ddylai cwsmeriaid gysylltu gyda'r cwmni hwnnw.

"Mae cwmni Gill's Cruise Centre yn ymddiheuro eu bod yn methu derbyn unrhyw archebion gwyliau newydd ar hyn o bryd," meddai neges ar eu gwefan.

"Fe ddylai ein cwsmeriaid presennol gysylltu ein hadran gwasanaethau cwsmeriaid ar 0845 460 6094."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific