British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 16 Gorffennaf 2011, 09:52 GMT 10:52 UK
Ailstrwythuro yn arwain at golli 22 o swydd

Western Mail
Un o gyhoeddiadau'r cwmni yw'r Western Mail

Fe fydd 22 o swyddi newyddiadurwyr llawn amser yn mynd fel rhan o gynlluniau ailstrwythuro cwmni papur newydd Media Wales.

Mae'r cwmni yn cynnwys cyhoeddiadau'r Western Mail, South Wales Echo, Wales on Sunday a saith papur wythnosol yn ne Cymru.

Dywedodd y cwmni bod y diswyddiadau yn rhan o newidiadau i'r drefn olygyddol "yn wyneb y sefyllfa economaidd".

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth y cwmni roi'r gorau i werthu'r Western Mail a'r South Wales Echo ar y stryd.

Ym mis Medi 2010 fe gafodd pedwar golygydd sy'n gyfrifol am y cyhoeddiadau wythnosol yn y cymoedd wybod y gallen nhw golli eu gwaith.

Ar y pryd dywedodd Media Wales eu bod am benodi prif olygydd i oruchwylio staff i gynnal y cyhoeddiadau sy'n cynnwys y Merthyr Express, Pontypridd Observer, Rhondda Leader a'r Glamorgan Gazette.

Gwaith rhan amser

Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd Media Wales bod y newidiadau diweddara yn rhan o'r cynlluniau i gyflwyno un tîm cynhyrchu ar gyfer y Western Mail, South Wales Echo, Wales on Sunday a'r holl gyhoeddiadau wythnosol.

Fe fydd y newidiadau yn golygu llai o swyddi llawn amser yn adran cynhyrchu golygyddol a chyflwyno system nwydd, rhan amser.

Fe fydd y cyhoeddiadau wythnosol yn cael eu hail-strwythuro gydag adran chwaraeon newydd ac adran newyddion lleol newydd.

Fe fydd 'na "gynnydd mewn canolbwyntio ar gynnwys wedi ei greu gan y gymuned".

Dywedodd Alan Edmunds, rheolwr gyfarwyddwr Media Wales, eu bod yn parhau i wynebu her y sefyllfa economaidd yn 2011 a bod y tueddiad i'w weld i barhau am beth amser.

"Drwy gynnig y newidiadau yma fe fyddwn ni mewn gwell sefyllfa i ddarparu a chyhoeddi cynnwys print a digidol o'r radd flaenaf i'n darllenwyr a'n hysbysebwyr ac i warchod Media Wales..."

Mae Media Wales yn cyhoeddi'r Merthyr Express, Rhymney Valley Express, Gwent Gazette, Pontypridd Observer, Rhondda Leader, Glamorgan Gazette a'r Cynon Valley Leader yn wythnosol.

Yn 2009 fe wnaethon nhw roi'r gorau i gyhoeddi'r Neath Guardian a'r Port Talbot Guardian.

Mae Media Wales yn rhan o grŵp Trinity Mirror.



HEFYD
Diwedd ar werthu'r papur ar y stryd
01 Gorff 11 |  Newyddion
Ansicrwydd i olygyddion papurau newydd
24 Medi 10 |  Newyddion
Papurau newydd: Colli swyddi
24 Medi 09 |  Newyddion
Rhybudd: 'Argyfwng' papurau newydd
04 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific