Mae'r criw am atgyfodi cwrw Lager Wrecsam am y tro cyntaf ers 2000
|
Bydd yfwyr yn Wrecsam yn medru mwynhau un o ddiodydd hynaf Prydain cyn bo hir wrth i Lager Wrecsam gael ei atgyfodi. Ymunodd tri dyn busnes lleol, John, Vaughan a Mark Roberts, gydag Ian Dale - cyn rheolwr bragdy Wrecsam Lager - i sefydlu bragdy bach newydd. Mae'r criw yn amcangyfrif y bydd y faril gyntaf o'r lager yn barod erbyn diwedd Awst. Dywedodd Ian Dale y bydd yn dilyn rysáit oedd yn cael ei ddefnyddio yn y 1970au. Bryd hynny, roedd y lager o gryfder 4% cyn iddo newid i 3.2% wedi i'r cwmni uno gyda chwmni Carlsberg. 'Offer gorau'
Dim ond mewn tafarnau y bydd cynnyrch y bragdy bach newydd ar gael
|
"Mae'n syniad cyffrous," meddai Mr Dale. "Mae'r criw wedi prynu'r offer gorau posib, a dyw'r ffaith fod y bragdy newydd yn llawer llai ddim yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd. "Rydym am ddechrau'n ara' deg er mwyn sefydlu ein hunain." Bydd y cwrw lager ond ar gael mewn casgenni bach, neu farilau, ac yn cael ei werthu i dafarnau lleol am y tro. Cartre'r bragdy newydd yw hen warws oedd yn rhan o fusnes dosbarthu'r brodyr Roberts Yr Almaen "Roedd y busnes wedi tyfu'n rhy fawr i'r adeilad, ac roeddem yn ystyried beth i'w wneud ag o," meddai Mark Roberts. "Fe wnaethon ni deithio i America ac o gwmpas Ewrop i chwilio am yr offer gorau, ac yn y diwedd dewis offer gan gwmni teuluol o'r Almaen - un o wneuthurwyr offer bragu hynaf y byd. "Fe wnaethon ni'n gwaith cartref oherwydd roedd hwn yn benderfyniad pwysig dros ben." Mae Mark Roberts yn credu y bydd logo'r cwrw newydd yn crynhoi hanes y dref. "Rydym yn defnyddio lliwiau Cymru, draig, a phêl pêl-droed y tu mewn i bêl rygbi. "Yna mae gennym yr aur i ddynodi llwyddiant y dyfodol gobeithio, a du i gofio dyddiau glofaol Wrecsam." Daeth y broses o fragu yn y dref i ben yn 2000. Bydd peirianwyr o gwmni Almaeneg Kaspar Schulz yn gosod yr offer yn y bragdy newydd cyn i'r gwaith bragu ddechrau cyn diwedd y mis.
|