British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 07:31 GMT 08:31 UK
Pobol y Brifwyl: Meistres newydd

Mae Newyddion Arlein BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda nifer o bobl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar drothwy'r Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro eleni. Alys Lewis gafodd sgwrs gyda Ela Jones, a fydd yn olynu Siân Aman fel Meistres y Gwisgoedd.



Ela Jones
Ela Jones fydd Meistres y Gwisgoedd newydd

Bydd Ela Jones yn gwylio gwaith Meistres y Gwisgoedd gyda diddordeb arbennig yn ystod yr Eisteddfod eleni.

Oherwydd mae Jean Huw Jones yn ymddeol o'r rôl wedi 28 mlynedd.

Ela fydd Meistres y Gwisgoedd yn Eisteddfod 2012.

Talodd deyrnged i waith ei rhagflaenydd, Siân Aman.

"Dydi hi ddim wedi methu'r un seremoni mewn 28 mlynedd."

Mae Ela, sy'n dod o Ysbyty Ifan, yn gyfarwydd gyda'r fath o waith fydd ei angen.

Llygaid barcud

Mae hi'n gweithio yn y maes yn barod.

"Yn fy ngwaith bob dydd dwi'n gwneud dillad priodas."

Ni fydd Ela'n gwneud dim byd swyddogol yn yr Eisteddfod eleni.

Ond fe fydd yn gwylio beth y bydd Siân Aman yn ei wneud a llygaid barcud.

"Dwi'n gwybod y bydd yn llawer o waith a chyfrifoldeb.

"Ond bydd yn anrhydedd ac yn fraint hefyd.

"Dwi wedi cael llawer o gefnogaeth gan bawb, mae pobl wedi bod yn glên iawn."

Ymysg cyfrifoldebau Meistres y Gwisgoedd mae gofalu am wisgoedd yr Archdderwydd a'r prif swyddogion eraill.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific