British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011, 15:56 GMT 16:56 UK
Tour: Thomas bron a chreu hanes

Samuel Sanchez
Samuel Sanchez enillodd y deuddegfed cymal ddydd Iau

Daeth Geraint Thomas o fewn 9km i greu hanes yny Tour De France ddydd Iau.

Dyna faint o'r deuddegfed cymal oedd yn weddill pan oedd Thomas ar y blaen, ac yn wynebu'r posibilrwydd o fod y Cymro cyntaf i ennill cymal yn ras feicio enwoca'r byd.

Ond mewn cymal mynyddig o Cugnaux i Luz-Ardiden - cymal o 211km - roedd trydydd mynydd y daith yn ormod i Thomas.

Roedd y Cymro wedi mynd yn glir yn gynnar yn y cymal, ac fe llwyddo i gadw'i fantais tan y diwedd bron.

Ar un cyfnod roedd Thomas mewn grŵp o ddau feiciwr oedd ddau funud a hanner yn glir o'r gweddill.

Edmygwyr

Gorffennodd Thomas yn y 25ed safle yn y cymal, ond mae wedi ennill nifer o edmygwyr wedi'r cymal anodd hwn ym mynyddoedd y Pyrenees.

I goroni'r cyfan fe enillodd Thomas wobr y diwrnod am ymdrech orau'r cymal - y wobr 'combative'.

Enillwyd y cymal gan Samuel Sanchez o Sbaen, gyda Jelle Vanendert o Wlad Belg yn ail a Frank Schleck o Lwcsembwrg yn drydydd.

Mae Thomas Voeckler yn cadw'i afael ar y siwmper felen - 1'49" o flaen Schleck - gyda Cadel Evans o Awstralia yn drydydd.

Yn ogystal â gwella'i safle ymhlith seiclwyr ifanc (dan 25) y gystadleuaeth, mae Thomas yn chweched yng nghystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd - y crys smotiau coch enwog.

Cymal 12 :-

1. S.Sanchez

2. J.Vanendert

3. F.Schleck

25. G.Thomas



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific