Cafodd corff Rebecca Aylward ei ddarganfod mewn coedwig
|
Yn achos llofruddiaeth merch ysgol dywedodd bachgen 15 oed sydd wedi ei gyhuddo o'r drosedd iddo weld ei ffrind yn ei tharo gyda charreg. Dywedodd y bachgen, na ellir ei enwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, i'r ymosodiad ar Rebecca Aylward ddigwydd mewn coedwig ger Abercynffig. Roedd y diffynnydd yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe. Dywedodd bod ei ffrind wedi codi'r garreg gydag un llaw ac yna ei tharo. Ar y dechrau, meddai, roedd yn defnyddio un llaw, ac yna gyda'i ddwy law gan ei tharo ar gefn ei phen. "Fe welais i e yn ei tharo gyda chwech neu saith ergyd rymus. "Fe glywais ei phenglog yn torri, yna fe welais waed. "Roedd e'n fater o eiliadau." Yna dywedodd ei fod wedi mynd yn ôl i dy ei ffrind, ac i'w ffrind son am gael diod i ddathlu. Cafwyd hyd i gorff Rebecca ym mis Hydref 2010. Yn ôl archwiliad post mortem fe fu farw o anafiadau i'w phen. Roedd ei phenglog wedi ei dorri mewn pedwar lle. Mae'r achos yn parhau.
|