British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 15 Gorffennaf 2011, 08:09 GMT 09:09 UK
Bad achub yn chwilio am gartref

Uned lansio newydd yr RNLI
Uned newydd i lansio badau achub y dyfodol

Mae'r RNLI yn cynnal nifer o brofion yn ardal Llandudno wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i gartref newydd i'r bad achub.

Dywedodd llefarydd mai'r peth pwysig wrth ddewis safle yw sicrhau bod modd lansio bad yn gyflym.

Oherwydd hynny bu crwiau achub yn arbrofi gyda cherbyd arbennig sy'n cael ei ddefnyddio i lansio badau.

Mae Llandudno yn un o nifer o lefydd glan-y-môr sydd wedi eu dewis ar gyfer y profion.

Mae'r profion yn cael eu cynnal ar wahanol fathau o dirwedd a thraethau.

Bu'r criw hefyd yn asesu perfformiad math o gwch newydd.

Mae'r model newydd, sef Shannon, yn fwy na'r un presennol (Mersey) sy'n gwasanaethu Llandudno.

Oherwydd hynny bydd angen cartref mwy na'r un presennol.

Dywedodd Colin Williams, o'r RNLI yng Nghymru: "Rydym yn gwybod nad yw cartref presennol y bad yn addas i'r bad achub newydd.

"Rydym yn parhau i chwilio am safleoedd eraill i'n galluogi ni i barhau gyda'r gwasanaeth achub bywydau oddi ar arfordir gogledd Cymru."

Bydd rhan o'r profion yn cael eu cynnal ar draeth y gogledd, i weld a fyddai'n addas fel cartref newydd i'r cwch.

Dywedodd Alan Sharp, sy'n aelod o griw bad achub Llandudno, y bydd oes y cwch presennol - model Mersey - yn dod i ben mewn rhyw bump neu chwe blynedd.



HEFYD
Ar y môr heb siacedi diogelwch
12 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific