British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 07:26 GMT 08:26 UK
Pobol y Brifwyl: Bilo Davies

Mae Newyddion Arlein BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda nifer o bobl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar drothwy'r Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro eleni. Alys Lewis gafodd sgwrs gyda Bilo Davies, un o'r degau sy'n cael eu hurddo i'r Orsedd eleni.


Bilo Davies
Mae Bilo Davies yn cael ei urddo i'r orsedd yn eisteddfod eleni

Mae Bilo Davies yn cofio'n glir y tro diwethaf y daeth yr Eisteddfod i Wrecsam.

Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Safle Eisteddfod Wrecsam ym 1977 ac mae'n cofio mor wahanol oedd pethau pan oedd pobl leol yn gyfrifol am drefnu'r ŵyl.

"Roedd pobl leol nid yn unig yn trefnu digwyddiadau'r Maes ond hyd yn oed y pethau eraill fel y pwyllgorau llên a chelf ac yn y blaen," meddai Mr Davies sy'n wreiddiol o Gwm-gors ond sydd wedi byw yn Wrecsam ers blynyddoedd lawer.

"Roedd y gwaith i gyd yn dod i'r bobl leol ac roeddem i gyd yn amaturiaid.

"Ond mae'r Eisteddfod wedi tyfu ers dod i Wrecsam ddiwetha'.

"Adeg hynny dim ond trefnydd, is-drefnydd, dwy ysgrifenyddes a rhywun arall i edrych ar ôl y Maes oedd yn cael eu cyflogi.

"Erbyn heddiw mae pethau llawer mwy proffesiynol ac mae popeth nawr yn gweithio fel watsh!"

Roedd llawer i'w ddysgu gan y rhai drefnodd yr Eisteddfod ym 1977.

"Roedden ni'n gorfod dysgu o un wythnos i'r llall ac roedden ni'n dysgu tan yr wythnos olaf.

"Roeddech chi'n symud 'mlaen i'r eisteddfod nesa' ac roedd rhai yn gorfod ail-ddechrau ar bob peth."

Cydnabyddiaeth

Wedi'r Eisteddfod yna fe sefydlwyd pwyllgor technegol oedd yn gymorth mawr i'r rhai oedd yn gorfod trefnu'r Eisteddfod.

Peiriannydd sifil yw galwedigaeth Mr Davies ac felly roedd e'n berson delfrydol i fod yn aelod o'r pwyllgor technegol.

Parhaodd i wasanaethu ar y pwyllgor nes iddo ymddeol yn ddiweddar.

Eleni, caiff ei urddo i'r Orsedd fel cydnabyddiaeth o'i holl waith dros y blynyddoedd.

Mae e wedi edrych ymlaen at weld yr Eisteddfod yn dychwelyd i Wrecsam gan gael amser i ymlacio a mwynhau.

"Rwy'i wedi gweld mwy o'r Eisteddfod eleni na weles i ym 1977,"meddai Mr Davies

"Ac wrth gwrs bydd raid i fi droi lan ar y dydd Gwener i gael y wisg wen 'ma!"




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific