British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011, 13:53 GMT 14:53 UK
Ceidwadwyr: Davies yw'r arweinydd newydd

Andrew RT Davies
Mae Mr Davies yn 43 oed, yn briod phedwar o blant

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis Andrew RT Davies fel eu harweinydd newydd.

Mr Davies fydd yn arwain yr wrthblaid yn y Cynulliad.

Enillodd Mr Davies y bleidlais gyda 49% o aelodau'r blaid yn bwrw'u pleidlais - rhyw 2,500 o bobl.

Cafodd Mr Davies 53.1% o'r bleidlais, tra chafodd ei wrthwynebydd Nick Ramsay 46.7%.

Bydd yn arwain carfan o 14 o aelodau Ceidwadol yn y Senedd, sef y brif wrthblaid yn erbyn y Llywodraeth Lafur.

Fferm

Mae Mr Davies wedi cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru ers 2007, ac mae'n llefarydd busnes ei blaid yn y Cynulliad ar hyn o bryd.

Cyn ei ethol bu'n rhedeg fferm ei deulu ym Mro Morgannwg.

Mae'n 43 oed, yn briod â phedwar o blant.

Cafodd yr etholiad ei alw wedi i'r arweinydd blaenorol, Nick Bourne, golli ei sedd yn y Cynulliad yn etholiad mis Mai.

Ar ôl clywed y canlyniad, talodd Mr Davies deyrnged i'w ragflaenydd, Nick Bourne.

Ers mis Mai, Paul Davies, AC Preseli Penfro, sydd wedi bod yn arweinydd dros dro yn y Cynulliad.

Llongyfarchiadau

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams:

"Hoffwn longyfarch Andrew ar ei lwyddiant wrth gael ei ethol yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef ac arweinwyr y pleidiau eraill i fwrw 'mlaen gyda datganoli i bobl Cymru."

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones: "Rwy'n dymuno'n dda i Andrew RT Davies yn ei swydd newydd.

"Gyda nifer o heriau yn wynebu Cymru, yn enwedig sicrhau cyllido teg a mwy o symudiadau cyfansoddiadol ymlaen i'n cenedl, rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio'i rôl newydd i geisio dylanwadu ar yr arweinyddiaeth Geidwadol yn San Steffan i weithredu er budd Cymru."



HEFYD
Ceidwadwyr: Holi Andrew RT Davies
04 Gorff 11 |  Newyddion
Ceidwadwyr: Ysbrydoli aelodau
28 Meh 11 |  Newyddion
Arweinydd plaid yn colli ei sedd
06 Mai 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific