Mae Elin Jones wedi cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999
|
Mae rheolwr Radio Ceredigion wedi gwadu honiadau gan yr Aelod Cynulliad lleol fod yr orsaf wedi ei gwahardd. Mae Elin Jones yn honni bod un o'i hetholwyr, a gafodd ei gyfweld gan yr orsaf, wedi ei rybuddio i beidio dweud ei henw ar yr awyr. Mae hi'n honni fod hyn wedi digwydd am iddi wrthwynebu cais gan yr orsaf i ddarlledu llai o Gymraeg. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd rheoleiddwyr y diwydiant, Ofcom, eu bod wedi gwrthod y cais gan berchnogion yr orsaf, Town and Country Broadcasting (TCB).
Ond mae rheolwr yr orsaf wedi ymateb i honiadau Ms Jones gan ddweud nad yw hi wedi ei gwahardd a bod eitemau yn cael eu hystyried o ran haeddiant golygyddol. Dywedodd TCB fod gan y cwmni perthynas dda gyda gwleidyddion. 'Cyfarfod' Anfonodd reolwr gyfarwyddwr TCB, Martin Mumford lythyr at Ms Jones sydd bellach wedi ymddangos ar ei gwefan. Dywedodd Mr Mumford: "Rwy'n siomedig eich bod chi wedi penderfynu cyhoeddi datganiad cyhoeddus negyddol arall ynglŷn â Radio Ceredigion ac rwy'n gofyn unwaith eto am y cyfle i gyfarfod â chi." Dywedodd Mr Mumford wrth y BBC: " Dydyn ni ddim yn gweithredu system gwahardd ar unrhyw un o'n gorsafoedd radio. "Rydyn ni'n ystyried bob eitem newyddion o ran haeddiant golygyddol. "Mae genyn ni berthynas da gydag ASau ac ACau yng Nghymru."
|