British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 14 Gorffennaf 2011, 05:38 GMT 06:38 UK
Gwylwyr y Glannau: Gobeithio newid meddwl

Protest blaenorol yng Nghaergybi
Bu protestiadau ar Ynys Mn ac Aberdaugleddau yn erbyn y cynlluniau

Mae gwrthwynebwyr cynlluniau i gau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau a Chaergybi yn aros i glywed cyhoeddiad am eu dyfodol.

Gall Llywodraeth y DU gau dros hanner y canolfannau a chwtogi nifer y gorsafoedd achub 24 awr o 18 i 3.

Yng Nghymru gallai gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi gau ac fe fydd canolfan Abertawe yn weithredol yn ystod oriau dydd.

Dywedodd y llywodraeth y byddai moderneiddio'r gwasanaeth yn gwneud y gwasanaeth yn un cryfach.

Mae disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol y gorsafoedd yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau.

Ond dydd Sul roedd 'na adroddiadau y bydd 11 o'r 19 gorsaf yn aros ar agor yn hytrach na'r 8.

Er hynny, dywedodd undeb y PCS mai sïon yw hynny.

Asesiad risg

"Mae 'na bob math o sïon ar hyn o bryd, ond tan y cyhoeddiad, dydan ni ddim yn gwybod be fydd yn digwydd," meddai Ray Carson, ysgrifennydd cangen Caergybi.

"Roedd adroddiadau yn y Sunday Telegraph a'r Sunday Mirror yn dweud bod 'na gynlluniau i gadw 11 gorsaf ar agor, ond mae'n dal i olygu y bydd 42% o'r gorsafoedd yn cau."

Fe wnaeth o ac ysgrifennydd y PCS yn Aberdaugleddau, Nigel Codd, ddiolch a chanmol yr ymgyrchoedd a gafwyd gan y cyhoedd am eu gwaith.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth yr ymgyrchwyr sydd am weld gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi yn aros ar agor, alw am asesiad risg annibynnol.

Yn ôl yr ymgyrchwyr yn Aberdaugleddau, maen nhw'n pryderu am ddiogelwch ymwelwyr.

Fe gafodd deiseb ei chyflwyno'r wythnos diwethaf yn y Senedd ym Mae Caerdydd sy'n galw am yr asesiad risg ac effaith ar ddiogelwch ymwelwyr petai'r orsaf yn cau.

Mae sawl protest wedi bod yn Aberdaugleddau ac yng Nghaergybi dros y misoedd diwethaf.

Ym mis Mehefin cafodd deiseb gyda 20,000 o enwau ei chyflwyno i Stryd Downing.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth llefarydd ar ran Yr Adran Drafnidiaeth ddweud bod y cynlluniau a gafodd eu cyflwyno mewn ymateb i'r angen i foderneiddio'r gwasanaeth.

Dywedodd y llefarydd: "Mae angen dod a'r gwasanaeth achub i'r 21ain Ganrif, i gryfahu'r gwasanaeth ac i wella gwasanaeth llinell flaen."



HEFYD
Gwylwyr y Glannau: Deiseb
28 Meh 11 |  Newyddion
Gwylwyr y Glannau: Ailfeddwl?
23 Meh 11 |  Newyddion
Ail-ystyried cau gorsafoedd
19 Mai 11 |  Newyddion
Rali gorsaf gwylwyr y glannau
30 Ebr 11 |  Newyddion
Gwylwyr y Glannau: Rali arall
19 Maw 11 |  Newyddion
Trafod Gwylwyr y Glannau
04 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific