British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011, 14:26 GMT 15:26 UK
Cyfarfod i drafod dyfodol harbwr Pwllheli

Cwch ar ei hochr yn harbwr Pwllheli
Tynwyd y llun yma o gwch ar ei ochr wrth geisio mynd i mewn i harbwr Pwllheli

Bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Tref Pwllheli i drafod dyfodol harbwr y dref.

Mae perchnogion cychod yn y marina yno wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd am fod mwd yn cronni, gan rwystro cychod rhag mynd i mewn ag allan o'r marina.

Bellach mae'r sefyllfa wedi gwaethygu i'r fath raddau fel mai dim ond am ddwy awr bob ochr i'r penllanw y mae modd mynd a chwch i mewn neu allan.

Ar un adeg, roedd 300 o bobl ar y rhestr aros am angorfa yno, ond erbyn heddiw mae 40 o angorfeydd gwag yno, ac mae rhagor yn bygwth symud eu cychod oddi yno.

'Pryderus'

Cafodd cyfarfod nos Fercher ei alw gan Faer Pwllheli, y Cynghorydd Meic Parry.

"Dros y blynyddoedd mae'r cyngor tref wedi bod yn hynod o bryderus ynglŷn â chyflwr harbwr Pwllheli," meddai.

"Mae rhai yn y dref yn gofyn a yw Cyngor Gwynedd wedi mynd allan i ddinistrio harbwr Pwllheli.

"Ers 1996 pan drosglwyddwyd yr harbwr o ofal hen Gyngor Dwyfor maen nhw wedi elwa yn braf o £10 miliwn, a dydyn nhw ddim wedi ail-fuddsoddi mewn cynnal a chadw yn enwedig yn y carthu wrth gwrs."

'Pleser?'

Un sy'n berchen cwch yn y marina yw Dewi Pritchard-Jones, ac mae o'n flin iawn am y sefyllfa bresennol.

Os na fydd pethau'n gwella fe fydd rhaid i mi fynd o' 'na, a fy mhleser i ydi hwylio nid eistedd yn y marina yn disgwyl am ddŵr
Dewi Pritchard-Jones

"Os na fydd pethau'n gwella fe fydd rhaid i mi fynd o' 'na, a fy mhleser i ydi hwylio nid eistedd yn y marina yn disgwyl am ddŵr.

"Pan nes i symud yno ro'n i'n gwybod, roedd pawb yn gwbod, roedd y cyngor yn gwbod bod angen i chi 'dredgio' am nad ydi Pwllheli yn harbwr dwfn naturiol.

"Mae tua 500 o berths yna, ac ma' Cyngor Gwynedd yn cael tua £4,000 y flwyddyn o bob un, felly mae yna ddigon o arian yn dod i mewn.

"Be' mae'r cyngor wedi bod yn 'neud hefo'r arian? Does gen i ddim syniad."

Hanner miliwn

Dywedodd Cyngor Gwynedd mewn datganiad:

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi dros £500,000 i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o siltio yng ngheg harbwr a basn marina Pwllheli.

"Mae'n werth nodi fod y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer datblygiad Hafan Pwllheli yn cadarnhau nad oedd erioed yn fwriad i ddarparu mynediad 24 awr i'r marina.

"Mae cychod wedi llwyddo i gael mynediad 24 awr dros yr 20 mlynedd diwethaf oherwydd gor-garthu sylweddol fel rhan o'r prosiect datblygu gwreiddiol yn 1990.

"Oherwydd lefelau siltio anarferol o uchel a achoswyd gan newidiadau sylweddol yn yr amgylchedd morol lleol, nid yw mynediad 24 awr bellach yn bosib, ac rydym wedi cymryd camau rhagweithiol i annog perchnogion cychod i beidio ceisio mynediad y tu hwnt i'r amseroedd a nodir.

"Mae problemau yn dueddol o ddigwydd pan mae perchnogion cychod yn ceisio mordwyo'r sianel y tu allan i'r oriau a nodir.

'Safon ryngwladol'

"Mae'r ffaith y bydd Pwllheli unwaith eto eleni yn croesawu amrediad o ddigwyddiadau hwylio a gweithgareddau chwaraeon dwr yn tanlinellu'r ffaith fod trefnwyr y digwyddiadau hyn yn parhau i werthfawrogi'r cyfleusterau ym Mhwllheli.

"Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio yn agos gyda'n partneriaid yn lleol i sicrhau fod Pwllheli yn parhau yn gyrchfan hwylio o safon ryngwladol.

"Bydd cynrychiolaeth o'r Cyngor yn cyfarfod gyda chyngor tref Pwllheli heno i drafod y materion hyn ymhellach."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific