Doedd na ddim prynwr ar gyfer y llun Landscape in Mid Wales yn yr arwerthiant
Mewn arwerthiant yn Llundain cafodd dau o luniau'r diweddar artist, Syr Kyffin Williams, eu gwerthu.
Cafodd y llun yma o Borth Dafarch, Ynys Môn ei werthu am £25,000
|
Arwerthwyr Christie's Llundain, sydd â'r record ar gyfer y pris uchaf erioed i gael ei dalu am waith yr arlunydd o Ynys Môn, pan werthwyd Bryn Yr Hen Bobl am £57,600 yn 2005. Y tro yma roedden nhw'n ceisio gwerthu tri llun gan yr arlunydd o Fôn. Ond methwyd â chael prynwr ar gyfer un o'r lluniau, golygfa o ganolbarth Cymru oedd ag amcan bris o £20,000 - £30,000. Cafodd llun Porth Dafarch, Ynys Môn ei werthu am £25,000 a llun o fythynod (Cottages at Sunset) ei werthu am £31,250 . "Mae gwaith Syr Kyffin Williams yn dal yn boblogaidd iawn," meddai, Jo Baring, arbenigwr celf Christie's.
Aeth llun Cottages at Sunset am £31,250
|
"Dwi'n credu mai ei steil sy'n tynnu sylw, a'r ffordd mae o'n darlunio tirwedd, yn enwedig yng Nghymru. "Mae ei luniau sy'n cynnwys ffermwyr neu ferlen hefyd yn gwerthu'n dda." Ganed yr arlunydd yn Llangefni ac ar ôl astudio a gweithio yn Llundain am gyfnod, dychwelodd i'r ynys gan fyw ym Mhwllfanogl, Llanfairpwll. Mae enghreifftiau o'i waith i'w weld mewn arddangosfa barhaol yn Oriel Ynys Môn.
|