British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011, 16:23 GMT 17:23 UK
Aildrefnu rhaglen ysgolion

Nenfwd ysgol
Bydd yn rhaid i gynghorau dalu 50% o gost adeiladau newydd

Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn bwrw mlaen gyda chynllun codi ysgolion newydd yn ei ffurf wreiddiol.

Mae cynghorau wedi cael gwybod y bydd rhaid iddyn nhw gyflwyno cynlluniau newydd a hefyd gyfrannu llawer mwy o arian.

Yn wreiddiol fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gofynnwyd i'r cynghorau lunio cynlluniau i sicrhau bod adeiladau ysgolion yn addas i bwrpas.

Mae'r penderfyniad diweddara yn golygu y bydd oedi yn achos nifer o brosiectau a phosibilrwydd na fydd rhai'n gweld golau dydd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews: "Mae'r sefyllfa wedi newid."

Yn wreiddiol, roedd gofyn i gynghorau gyfrannu 30% o'r gost ar gyfer pob prosiect unigol.

Byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gweddill.

50%

Ym mis Rhagfyr fe ddatgelodd BBC Cymru ei bod hi'n debygol y byddai'r gronfa ariannol yn brin o gannoedd o filiynau o bunnoedd.

Daeth hynny i'r amlwg ar ôl methiant addewid llywodraeth flaenorol i sicrhau y byddai pob adeilad ysgol yn addas i bwrpas erbyn 2010.

Nawr bydd gofyn i gynghorau gyfrannu hyd at 50% o gost y prosiectau unigol.

Dywedodd Mr Andrews: "Mae yna leihad mawr wedi bod yn yr arian cyfalaf ar gael i Lywodraeth Cymru."

Roedd y lleihad hynny yn 40%.

'Adolygu'

"Mae Llywodraeth Cymru yn meddwl bod rhaid i gynghorau gael y cyfle i adolygu amseru a manylion eu buddsoddiadau arfaethedig.

"Bydd hyn yn golygu penderfyniadau anodd ar y cyfle cynta posib er mwyn sicrhau bod arian ar gael ar gyfer rhagoriaeth mewn addysg yn lle cynnal a chadw adeiladau."

Roedd BBC Cymru wedi cael gwybodaeth oddi wrth 18 o 22 siroedd Cymru am eu cynlluniau adeiladu.

Roedden nhw'n bwriadu gwario £1.26 biliwn ar ysgolion rhwng nawr a 2015.

.



HEFYD
Prinder arian i ysgolion?
10 Rhag 10 |  Newyddion
Cynllun i wella safonau ysgolion
29 Meh 11 |  Newyddion
Diwedd polisi gliniaduron am ddim
20 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific