British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011, 09:48 GMT 10:48 UK
Gwarchod plant rhag mwg ail-law

Ysmygu mewn car
Cyflwynwyd gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus ym mis Ebrill 2007

Bydd cynlluniau i warchod plant rhag mwg ail-law mewn ceir yn cael eu hamlinellu gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach.

Credir bod y Llywodraeth dim ond yn ystyried llunio deddf i wneud ysmygu mewn ceir yn anghyfreithlon os bydd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r mater yn aflwyddiannus.

Ond mae gwrthwynebwyr i'r syniad yn honni byddai gwahardd ysmygu mewn ceir yn gam "llawdrwm".

Ym mis Mehefin eleni pleidleisiodd doctoriaid o blaid gwahardd ysmygu mewn ceir yn gynhadledd flynyddol Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghaerdydd.

Cefnogaeth

Bydd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones, a Phrif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell yn cynnal cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher.

Dywedodd Julie Barrett, cyfarwyddwr Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru, fod ymgynghoriad blaenorol wedi dangos fod llawer o gefnogaeth i reoli ysmygu mewn ceir tra bod plant ynddynt.

Ychwanegodd fod gwahardd ysmygu mewn tafarnau a chlybiau nos wedi bod yn llwyddiannus iawn ac yn hunan-reoledig erbyn hyn.

"Ond roedd rhaid gweithredu'r gwaharddiad cyn iddo fod yn hunan-reoledig," meddai.

"Byddai gwahardd ysmygu mewn ceir gyda phlant ynddynt yn anodd i weithredu ond fe glywon ni'r un ddadl cyn i ysmygu mewn tafarnau a chlybiau cael ei wahardd."

Dywedodd Simon Clark, cyfarwyddwr y grŵp lobïo ar gyfer ysmwygwyr, Forest, ei fod yn gwrthwynebu'r posibilrwydd o lunio deddf i atal ysmygu mewn ceir gyda phlant ynddynt.

"Ni fyddwn i'n annog unrhyw riant i ysmygu mewn lle cyfyng fel car os yw plant yno," meddai.

"Mae hyn yn synnwyr cyffredin a does dim rhaid llunio deddf ar gyfer synnwyr cyffredin."



HEFYD
Gwahardd ysmygu ger mynedfa ysbytai
01 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific