British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011, 08:45 GMT 09:45 UK
Mullanys: Olion ar ddillad

Ben a Catherine Mullany
Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio yng Ngorffennaf 2008

Clywodd llys fod olion tanio gwn wedi eu canfod ar ddillad dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpwl o Gymru yn y Caribî.

Bu farw Ben a Catherine Mullany o Bontardawe wedi iddyn nhw gael eu saethu yng ngwesty Cocos ar ynys Antigua yng Ngorffennaf 2008.

Mae Ave Howell, 20, a Kaniel Martin, 23, yn gwadu eu llofruddio.

Dywedodd yr arbenigwr fforensig Christopher Moynehan wrth y llys fod yr olion i'w gweld ar sawl eitem o ddillad y ddau.

Ychwanegodd fod yr olion yn gyson gyda chetris gwn yr oedd wedi eu harchwilio.

Fe gafodd y dillad eu cipio gan yr heddlu wrth weithredu gwarant i chwilio cartref y ddau ddiffynnydd.

Heb ei weld

Bu cariad Mr Martin hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r gwrandawiad.

Er iddi nabod Martin ers 14 mlynedd, bu'n byw gydag e am tua wythnos pan ddaeth yr heddlu i weithredu'r warant.

Ar y noson y cafodd y Mullanys eu llofruddio, roedd hi'n byw gyda'i mam a dywedodd nad oedd yn cofio gweld Martin.

Ond dywedodd iddi ei weld am 10:00am ar fore Gorffennaf 27 - ychydig oriau wedi'r llofruddiaethau.

Bu farw Mrs Mullany yn syth. Cafodd Mr Mullany ei gludo adref, ond bu farw wythnos yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Priodferch wedi ei saethu unwaith
07 Gorff 11 |  Newyddion
Heddlu Antigua yn clustfeinio
30 Meh 11 |  Newyddion
'Modd agor clwyd heb allwedd'
22 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific