British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011, 20:41 GMT 21:41 UK
'Hacio' cyfrifiadur: Rhyddhau llanc

Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn
Nid oedd yr heddlu yn medru cadarnhau a yw'r llanc yn ddisgybl yn yr ysgol

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod llanc yn ei arddegau, a oedd yn cael ei holi mewn cysylltiad â honiadau o 'hacio' wedi cael ei ryddhau.

Cafodd y llanc ei holi ar ôl honiadau bod cyfrifiaduron mewn ysgol uwchradd ym Mae Colwyn wedi eu 'hacio'.

Dywedodd llefarydd bod eu hymholiadau yn parhau.

Fe wnaeth ymchwiliad ddechrau yn Ysgol Eirias ym Mae Colwyn ym mis Mawrth i ganfod os yw manylion cyfrifiadurol am ddisgyblion wedi cael eu dwyn.

Roedd hyn yn dilyn honiadau ar y we gan rywun sy'n dweud ei fod yn ddisgybl ac wedi cael mynediad i'r cofnodion.

Roedd y negeseuon i ddwy wefan 'hacio' ar y we yn dweud: "Helo 'na, dwi'n falch o ddweud mod i wedi llwyddo i hacio fewn i'm hysgol.

"Dwi wedi lawrlwytho adroddiadau pawb, ac yn gweithio drwy restr hir o bethau er mwyn dial.

"Dwi'n ystyried ceisio gwerthu gwybodaeth fel hyn - unrhyw syniad sut i fynd o'i chwmpas hi?"

Mae'r negeseuon yn cynnwys lluniau o gofnodion honedig sydd wedi cael eu lawrlwytho.

Ym mis Ionawr, daeth yr ysgol i sylw'r Comisiynydd Gwybodaeth yn dilyn cwyn fod manylion personol disgybl wedi cael eu cyhoeddi ar y wefan fideo YouTube.



HEFYD
Ysgol yn ymchwilio i fideo YouTube
31 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific