British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011, 14:38 GMT 15:38 UK
TÓm yn helpu ysgol yn Y Trallwng

Dosbarth mewn ysgol
Mae Estyn yn arolygu ysgolion ac yn darparu addysg a hyfforddiant

Mae tîm o uwch-swyddogion addysg wedi cael eu penodi i helpu ysgol ym Mhowys lle cyflwynwyd mesurau arbennig.

Roedd arolwg yn Ysgol Gynradd Maesydre yn Y Trallwng ym mis Mai eleni.

Er i'r adroddiad nodi rhai nodweddion da am yr ysgol lle mae 190 o blant, roedd arolygwyr hefyd wedi casglu bod nifer o nodweddion anfoddhaol.

Roedd perfformiad cyfredol yr ysgol a'i gallu i wella yn annigonol, medden nhw.

Rydyn ni'n hyderus y bydd gwaith caled a chydweithrediad staff a chorff lywodraethu'r ysgol yn sicrhau'r gwelliannau y mae Estyn yn mynnu eu gweld
Stephen Hayes

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Hayes, Aelod Cabinet Cyngor Powys sy'n gyfrifol am Ddysgu a Hamdden: "Fe fyddwn ni'n cydweithio â chorff llywodraethu'r ysgol i gael esboniad am ganlyniad yr arolygiad ac i sicrhau y bydd yr ysgol yn cyflawni gwelliannau yn fuan.

"Mae tîm o uwch-swyddogion addysg o Bowys ac awdurdodau lleol cyfagos wedi cael ei sefydlu i helpu'r broses.

'Gwelliannau'

"Mae darparu addysg o safon uchel i bobl ifanc y sir yn hollbwysig.

"Rydyn ni'n hyderus y bydd gwaith caled a chydweithrediad staff a chorff lywodraethu'r ysgol yn sicrhau'r gwelliannau y mae Estyn yn mynnu eu gweld."

Bydd y cyngor yn sefydlu cynllun gweithredu ffurfiol a'r ysgol fydd yn manylu ar y camau i fynd i'r afael â'r gwendidau.

Bydd Estyn yn arolygu'r ysgol bob tymor nes i'r mesurau arbennig ddod i ben.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific