British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011, 10:46 GMT 11:46 UK
Rhoi cwtsh mawr i'r Llyfrgell Gen

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyhoeddwyd y bydd llyfrgell ac amgueddfa genedlaethol i Gymru yn 1905

Mae staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofyn i'w cefnogwyr ymuno â nhw i roi 'cwtsh mawr' i'r adeilad.

Wrth ddathlu canmlwyddiant gosod y garreg sylfaen gan Frenin Siôr V ar Orffennaf 15, yr amcan yw hel 450 o bobl at ei gilydd i gofleidio'r adeilad clasurol.

Ffurfir y gadwyn ddynol am 2.15pm ar Orffennaf 15 ac fe'i dilynir gan seremoni fer ar flaen yr adeilad neo-glasurol gan lywydd y llyfrgell, Dafydd Wigley.

Bydd yna hefyd ddathliad o'r llyfrgell mewn ffilm ar Orffennaf 13 gyda'r cyfle i weld gosodiad y garreg sylfaen a'r agoriad swyddogol ym 1937.

Rydym nawr yn gofyn i bobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth i'r llyfrgell heddiw a chadarnhau fod yr adeilad a'i chasgliadau yma i wasanaethu pobl Cymru a'r byd am ganrif arall
Andrew Green

Bydd hefyd cyfle i fynd ar daith hanesyddol a phensaernïol o amgylch yr adeilad ar Orffennaf 15.

Ymhlith y rhai bydd yn dathlu cyfraniad y llyfrgell at ddiwylliant Cymru bydd y bardd Gwyneth Lewis.

"Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn hollol hanfodol oherwydd nid yn unig ydy o'n drysorfa o'n hetifeddiaeth, ond dyna le mae dychymyg y dyfodol yn cael ei greu," meddai.

"Alla i ddim dychmygu unrhyw genedl heb lyfrgell genedlaethol.

"Maent hefyd yn deall fod llyfrgelloedd nid yn unig yn adeiladau, bellach, ond eu bod yn y byd digidol hefyd. Mae Aberystwyth wedi bod yn arloesol o ran hynny."

Dywedodd y llyfrgellydd Andrew Green: "Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gefn ymgyrch codi arian ar lawr gwlad dros ganrif yn ôl.

"Yn hynny o beth mae'n unigryw ymysg holl lyfrgelloedd cenedlaethol y byd.

"Rydym nawr yn gofyn i bobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth i'r llyfrgell heddiw a chadarnhau fod yr adeilad a'i chasgliadau yma i wasanaethu pobl Cymru a'r byd am ganrif arall."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific